Gillie: “Bydd popeth yn iawn erbyn y bore”

Casgliad cyfrwng Cymraeg cyntaf y cynhyrchydd o Gaerfyrddin, Gillie

Wedi iddi ddychwelyd i Gymru ar ôl treulio ei harddegau hwyr — a’i hugeiniau cynnar — yn Llundain, ‘Yn y Bore’ yw’r casgliad cyfrwng Cymraeg cyntaf i Gillie ryddhau ac mae’n cyfleu'r newidiadau emosiynol, corfforol a daearyddol mae'r gyfansoddwraig a'r cynhyrchydd o Gaerfyrddin wedi'i brofi dros y ddwy flynedd diwethaf. 

Yn tynnu ar ddylanwadau cerddorol sy’n cynnwys artistiaid fel Ben Marc, Kokoroko a Dark Oscilations, mae’r EP pedwar-trac yn plethu curiadau cyflym â melodïau haenog, a’n cylchdroi o gwmpas y syniad “y bydd popeth yn iawn erbyn y bore”. Eglura Gillie: “Mae 'na lot wedi newid yn fy mywyd ar hyd y cyfnod lle oni'n ysgrifennu'r caneuon yma ac felly mewn ffordd, mae'r EP yn crynhoi'r ddwy flynedd diwethaf imi”.

Gan awgrymu bod mwy o draciau ar y gorwel, ychwanega Gillie: “Mae gan bob un o'r pedwar trac gyfnodau hapusach a thywyllach yn perthyn iddynt ac maent yn crynhoi’r hyn dwi'n ei deimlo am ‘newid’. Mae'r broses wedi bod yn un cathartig iawn ac mae wedi gosod sylfaen ar gyfer yr hyn sydd i ddod gen i nesaf." Allan nawr drwy Libertino, ffrydiwch ‘Yn y Bore’ yma:  

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

Senglau cyntaf Cyn Cwsg

Next
Next

WRKHOUSE unleash debut single, ‘Getaway’