Senglau cyntaf Cyn Cwsg

“Weithia’, y cyfan ti angen ydi enw neu gyfeiriad i fframio dy syniadau, neu beryg mai byw yn y laptop fydda nhw am byth”

Wedi iddynt eistedd ar bentwr o ganeuon ers tro byd — a chwarae ar hyd a lled Cymru wrth wneud — roedd dydd Gwener diwethaf yn nodi pennod gyntaf i'r band o'r gogledd, Cyn Cwsg, wrth iddynt ryddhau eu deunydd cyntaf drwy UNTRO. 

Anarferol yw gweld band yn rhyddhau ar ffurf sengl ddwbl heddiw, yn enwedig fel y sengl gyntaf un, ond dyna’n union oedd ar feddwl Tomos Lynch, Obed Powell-Davies a Gwion Ifor wrth fynd draw i Lundain i recordio ‘Asgwrn Newydd’ a ‘Lôn Gul’ gyda’u ffrind a’r cynhyrchydd, Sywel Nyw: “Ma’ recordio’n Llundan yn swnio’n ffansi, ond recordio nhw mewn ’stafell fyw yn syth mewn i’r laptop naetho ni mewn gwirionedd,” medd Tomos, prif leisydd y cynta’ o’r ddau drac.

Er bod y ddwy gân wedi eu recordio yn yr un penwythnos, yn yr un ’stafell fyw, teg byddai meddwl mai dau fand gwahanol sydd y tu ôl i’r traciau — gyda ‘Asgwrn Newydd’ yn dilyn cyfeiriad cysglyd, breuddwydiol, tra bod ‘Lôn Gul’ yn tynnu ar ddylanwadau mwy cywrain y 70au, gyda’r slide guitar, a’r chwerthin diangen ond eto cwbl gartrefol ar ddiwedd y trac, yn ffeindio’u lle yn berffaith. Sonia Obed, sy’n lleisio ar ‘Lôn Gul’: “Dwi’n meddwl fod hynna’n gryfder i ni achos dio’m yn clymu ni lawr i fynd lawr yr un llwybr penodol efo’r stwff nesa’.”

Wedi cyffroi bod y ddau drac allan o'r diwedd, ychwanega Tomos: “Oedda ni digwydd bod yna (Llundain) yn ystod rhyw heatwave mawr ddechra’ Hydref — oedd pawb yn poeni mwy i le fysa ni’n mynd am beint yn hytrach na thôn y gitars dwi’n meddwl! Dwi’m yn meddwl fysa hwyl y peth wedi dod drosodd cystal petai ni di mynd i ryw stiwdio fawr.” 

Daw gig cyntaf Cyn Cwsg fis Awst diwethaf yn Caffi Siop Plas, dafliad carreg i ffwrdd o donnau Aberdaron, ond erbyn hynny, roedd Tomos ac Obed wedi hen arfer arbrofi â syniadau cerddorol wrth i’r ddau rannu eu cariad at felodi yn y Brifysgol yn Aberystwyth.

Eglura Tomos: “O’n i wastad wedi bod yn chwara’ o gwmpas efo’r ochr cynhyrchu o betha’, ond byth rili wedi cymryd fy hun o ddifri fel sgwennwr caneuon. Ond wedyn pan ti’n dod â pherson arall i’r cawl (Obed), yn sydyn reit ma' gen ti rywun i ddangos y syniadau ma iddyn nhw — a thrw’ hynny, lot mwy o incentive i fynd ati i orffen caneuon. Weithia’, y cyfan ti angen ydi enw neu gyfeiriad i fframio dy syniadau, neu beryg mai byw yn y laptop fydda nhw am byth!”

A hwythau’n galw Caerdydd yn gartref bellach, mae Cyn Cwsg wedi bod yn gweithio gyda’r cyfarwyddwr ffilm, Aled Victor, yn ddiweddar ar fideo a ddisgrifir fel "teyrnged tafod yn y boch i ddegau o nosweithiau hwyr yn gwylio clipiau o rooftop concert y Beatles tra yn y coleg”.

Yn perfformio ar falconi fflat yng nghanol y brifddinas, ychwanega Tomos: “Gath Obed y syniad o roi sbin ni’n hunain ar y fideo iconic na o’r Beatles ar ben to Apple Studios yn Llundain. ’Da ni wedi siarad gymaint o gachu efo’n gilydd am y gyfres ‘Get Back’ ers idda fo ddod allan, elli di ddeud bod y fideo yn nod bach i hynny o bosib. Dim ond un boi oedd i’r job wedyn, a ma’ Aled wedi neud gwaith grêt. Ma ’na ambell i shot o’r adeilada’ yn atgoffa fi lot o glawr un o albyms Endaf Emlyn. Beautiful.”

Er mai fel deuawd (Tomos ac Obed) y daeth Cyn Cwsg i’r byd am y tro cyntaf, trodd dau yn dri gyda Gwion yn ymuno i recordio deunydd cynta’r project — prosiect sydd bellach yn gweld Gethin Elis (allweddellau) a Llew ap Gwyn (dryms) yn perfformio â hwy'n fyw. Gyda lot mwy o gerddoriaeth ar y gorwel, gwnewch yn siŵr eich bod yn effro ar gyfer Cyn Cwsg. 

Gwyliwch fideo arbennig ‘Asgwrn Newydd’ yma:

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

Honddu’s debut cut, ‘The Gallop of Love’

Next
Next

Gillie: “Bydd popeth yn iawn erbyn y bore”