Track Premiere: Roughion - 'Meillionen'
Yn ddiweddar, cawsom ein tywys ar daith arbennig o gerddoriaeth ddawns Gymraeg - a’r dyn tu ôl i’r cwbl oedd y DJ, cymysgydd a’r rheolwr label, Gwion Ap Iago. Cyfle perffaith felly i Klust ei holi am ei berthynas unigryw gyda’r genre a’i gynlluniau cyffrous ar gyfer ei label Afanc yn 2022. Cymerwch saib, gwnewch baned a dewch i adnabod un o benseiri DIY y byd techno Cymraeg.
Yn un hanner o Roughion, hyrwyddwr a hefyd yn fentor ar raglen ddatblygu, doedden ni'm yn brin ar feysydd i'w trafod. Er, doedd dim lle gwell i ddechrau 'na gyda'i bennod Curadur arbennig a lwyfannodd ar S4C yn ddiweddar. Er bod cynhyrchiad, naratif, estheteg a cherddoriaeth y rhaglen honno yn gwbl gaethiwus, angerdd Gwion tuag at gerddoriaeth ddawns darodd fi yn fwy ‘na dim.
Yn cyfeirio at y rhaglen fel “gwers”, ydi’r egni hwnnw wedi bod ynddot ti erioed?
Do, fi wastad wedi bod yn eitha passionate, rhy passionate am rhai pethe, ond mae’r passion am gerddoriaeth ddawns wedi bod yna ers imi fod yn ifanc iawn. Fi’n teimlo fel ma lot o bethe fi wedi neud yn fy mywyd wedi bod yn fringe things, ond gyda dance music fi wedi ffeindio'r ‘niche’ fi’n hoffi fwya’. Fi’n defnyddio’r gair “niche” achos yng Nghymru, dyna yw e. Ma fe wedi cael ei dangynrychioli’n llwyr - ma’n llawer mwy na cherddoriaeth ar gyfer oriau mân y bore ond yn anffodus, ma di bod fel hyn ers erioed. Roedd ‘neud y sioe Curadur yn class achos odd e’n rhoi ein acts dance music ar ein (unig) sianel Gymraeg ac yn dangos bod Cymru yn lot fwy na bloody guitars. Chi ddim yn clywed y fath yma o gerddoriaeth ar y radio yng Nghymru.
Beth am gynrychiolaeth ehangach y genre yma yng Nghymru?
Er bod y scene yng Nghymru yn gwella nawr, oedd o’r un mor stagnant am amser maith. Fi’n falch bod gigs Cymraeg yn rhoi line-ups bach fwy diverse ymlaen nawr, ond where are the Welsh club nights and the brands Cymraeg? Dyw defnyddio enw Cymraeg ond peidio bookio artists Cymraeg neu beidio chware caneuon Cymraeg mewn club nights ddim yn hybu’r scene. Fel wedes i ar raglen Lisa G rhai blynyddoedd yn ôl, ma da ni GYFOETH o gerddoriaeth ddawns. We’re the land of synths after the land of song. Ma loads yn neud e, start championing it, fel dwi wedi dechre neud.
Mae’r rhaglen yn adlewyrchu dau begwn y byd electroneg Gymraeg wrth gynnwys rhai o gewri fwyaf adnabyddus y sin a hefyd yr artistiaid mwy arbrofol a thanddaearol. Ydi hynny’n crynhoi dy weledigaeth gydag Afanc?
100%, chi methu peidio edrych yn ol ar hanes. Ma’r label yn neud be sydd wedi bod angen ar Gymru ers ages. Oni’n really keen i gael Tŷ Gwydr a Llwybr Llaethog yn rhan o fe achos they were the first to do it here. Be ni’n trio neud yw ail-greu rhai elfennau o be o' nhw’n neud. I fi, ma gweledigaeth lot o bobl ‘muso’ yng Nghymru ychydig yn narrow viewed, gall pethe fod yn llawer gwell, at least fwy inclusive. Ma cerddoriaeth yn newid o hyd, mae’n amser i ni newid hefyd. Y rheswm ma labels fel Warp a Ninja Tune yn amazing yw achos yr amrywiaeth - having two guitars in a band you’ve signed is not diverse, it’s boring.
Be dwi’n trio neud gyda Afanc yw rhoi platfform i bobl, rhoi platfform i artistiaid ddarganfod ei hunain ac i wthio ffinau o beth sy’n acceptable yn y iaith Gymraeg. Mae o’i gyd yn DIY. Fi wastad wedi neud pethe yn DIY - sydd ddim yn gret wrth wneud application form ar gyfer grants achos there’s a knack to it that - one that I’m yet to figure out. Fi’n dweud ar ben fy hun ond, ma creu cymuned yn hollbwysig achos ma angen LOT o bobl like-minded i greu newid - falle person sy’n neud graphic design, falle person sy’n gweithio i mixing and mastering studio, falle rhywun arall sy’n savvy gyda socials etc ond pan ma’i gyd yn dod at ei gilydd, it’s great. Ers imi ddechre Afanc dwy flynedd yn ol, oni wastad yn dweud mai electronic label on’i. These days, ma pawb yn recordio ar laptops neu computers gan ein galluogi i ryddhau WHATEVER THE F WE WANT ac eleni, dyna’n union sy’n digwydd.
Ar hynny felly, mae hi’n addo i fod yn flwyddyn hynod brysur i Afanc. Ty'd a’r hanes i ni o ran yr artistiaid ti wedi bod yn cyd-weithio gyda’n ddiweddar a’r cynnyrch sydd ar y gweill…
LOADS, LOADS, LOADS. Ar hyn o bryd ma release schedule ni’n llawn tan fis Awst. Er, os chi ishe danfon stwff i ni, allwn ni fitiio fe fewn…jyst about.
Gafodd yr ailgymysgiad ‘Niwl’ (Endaf, Dafydd Hedd, Mike RP) ei rhyddhau ar High Grade Grooves wythnos ddiwethaf, gan fynd a naws disgo gwreiddiol y gân i gyfeiriad techno ddiwydiannol. Faint o foddhad mae Roughion yn ei chael wrth ail-gymysgu caneuon o’r fath?
Ma neud remixes yn lot o hwyl. Fel arfer fi sy’n neud y cyfan a Steff sy’n edrych dros bob dim i weld os ma’r notes fi wedi defnyddio'n iawn. O fod yn DJ am 10 mlynedd (a mwy), fi’n gwbod pwysigrwydd cael caneuon sydd gan neb arall ar y dancefloor yn ogystal â neud edits. Dyna o le ddath house music - odd Frankie Knuckles yn neud disco edits a just rhoi 4x4 beat ar y dechre a diwedd i neud e’n haws i mixio ond wedyn nath e sylwi fod y 4x4 beat yna yn neud i’r crowd fynd yn hollol wallgo’. Hyd yma, mae releases Roughion eleni wedi bod yn remixes ond ar ol sortio’r holl licenses, bydde nhw’n dod allan fel tracks gwreiddiol. Meganomeg (acid version o track gafodd ei rhyddhau yn y 90au), SuperTed, a hefyd the highly anticipated DnB edit o gan HMS Morris. All out this year baby.
Yn aml, byddai Roughion yn cael eu labelu fel y “Chemical Brothers Cymraeg” - a’i chymhariaeth ddiog yw hynny bellach?
Yeah, it’s a bit samey nawr. Odd e’n cool i ddechre da’ ond ma na loads o ansoddeiriau all pobl defnyddio amdano' ni. Ond, er bod e’n boring it’s the best we’ve got, a tra bod ni’n torri trwyddo i’r scenes eraill, ma cal cymhariaeth fel ‘na yn helpu gyda’r hyrwyddo a dosbarthu.
Pleser yw llwyfannu ailgymysgiad Roughion o ‘Meillionen’ ar Klust cyn iddi gael ei rhyddhau’n swyddogol yfory. Yn barod yn anthem mewn lleoliadau tywyll a chynnes, sut brofiad oedd hi i weithio gyda’r trefniant offeryniaeth + llais arbennig Eadyth?
For the die hard Roughion fans (big up os chi yn), new’ chi gofio bod ni wedi remixio ‘Nythod Cacwn’. Ni’n big fans o BPL a wastad yn cael lot o hwyl yn remixio brass bands. Gyda hwn, we went back to the 90s house scene a defnyddio The Bomb gan y Bucketheads fel reference track, sydd yn sample o Chicago - Street Player, eto brass band. So odd hwn yn really hawdd i newid a chware o gwmpas gyda - odd popeth yn llifo yn really rhwydd. Odd y track yn bleser i’w greu ac ma chware fe allan wastad yn buzz. Fi di chware fe i ystafell o 50 a hefyd i ystafell o 500, rhai Cymraeg a rhai di Gymraeg, ond yr un yw’r reaction o hyd: Full-on hapusrwydd. Oedd e’n cool hefyd bod playlist Hedkandi wedi pigo fe lan ar Spotify!
Gwych! Cyn imi fynd, ar ba artistiaid dylen ni gadw llygad eleni?
Mali Haf, Minas, Ryan M Hughes, Macy, Dan Suge, Sachasom, Ci Gofod, Esther, Joe Easton, Aleighcia Scott, Clü, LUK, Zefer, Lewis John, Magugu. Loads of variety fyna and they’re all class. Ma lot o nhw yn mynd i gael ei breakthroughs eleni, I’m calling it. Os chi wedi tolleratio rants fel hyn ac ishe creu newid hefyd, then we’ll defo be mates.
Ffrydiwch ailgymysgiad Roughion o ‘Meillionen’ yma nawr: