Mix Mercher + Premiere: Gwenno Morgan - ‘Trai’
Wedi i Malan lansio’r gyfrol yr wythnos ddiwethaf, y pianydd Gwenno Morgan sy’n paratoi ein Mix Mercher yr wythnos hon. Yn wreiddiol o Fangor, Gogledd Cymru, mae Gwenno bellach yn cyfansoddi a chynhyrchu ei thraciau nu-soul o Lundain. Er yn enw gymharol newydd i’r sin yma yng Nghymru, mae Gwenno wedi cydweithio gyda sawl enw cyfarwydd gan gynnwys Mared a Sywel Nyw - dim syndod felly oedd gweld ei EP offerynnol ‘Cyfnos’ yn derbyn sylw ehangach am ei sain hypnotig hyfryd.
Yn rhyddhau ei cherddoriaeth drwy I KA CHING, mae Gwenno hefyd ynghlwm â dathliadau deng mlynedd y label eleni. Bob wythnos, hyd at yr 20fed o Fai, rhyddheir I KA CHING sengl neu ailgymysgiad arbennig gan un o’u hartistiaid - a’r ail drac o’u casgliad amlgyfrannog yw ‘Trai’ gan Gwenno Morgan. Yn ymestyn ei sain sinematig i arddull sy’n plethu pop, dawns a jazz, mae ‘Trai’ yn tynnu ar ddylanwadau rhythmig Max Cooper a Tom Misch. Pleser felly yw cyflwyno’r sengl ar wefan Klust cyn iddi gael ei rhyddhau’n swyddogol ar Ddydd Miwsig Cymru (4ydd o Chwefror).
Yn edrych ymlaen at gefnogi Al Lewis ar ei daith haf eleni, mae Gwenno hefyd ymysg y 49 artist sy'n rhan o Gronfa Lansio Gorwelion 2022. Klust fu'n holi felly, pa artistiaid sydd wedi siapio'i sain unigryw? Dyma gyflwyno Mix Mercher Gwenno Morgan: