Dydd Miwsig Cymru

Dyma seithfed dathliad Dydd Miwsig Cymru eleni - diwrnod i ddathlu’r holl gerddoriaeth arbennig a chrëir yng Nghymru. O indi i roc ac o ffync i pync, dyma ddiwrnod i amlygu cyfoeth cerddorol Cymru.

Gall Ddydd Miwsig Cymru olygu gwahanol bethau i wahanol bobl ond yr un nod sy’n gyffredin - cyflwyno cerddoriaeth Cymraeg i gynulleidfaoedd newydd. Yn syml oll, bwriad y diwrnod yw ymestyn cyrhaeddiad artistiaid Cymraeg gan wthio rhai o enwau fwyaf cyffrous y sin i wahanol gorneli’r byd. Mae’r diwrnod hefyd yn rhan o weledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Boed yn gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg i ddysgu’r iaith, ehangu ymwybyddiaeth ddiwylliannol neu ar gyfer mwynhad personol, mae’n cael ei weld fel adnodd i wireddu’r targed honno.  

Er ei bod yn hawdd cwestiynu arwyddocâd diwrnodau ac ymgyrchoedd o’r fath, does posib gwadu effaith Dydd Miwsig Cymru. Un sy’n gwerthfawrogi cyfraniad y dathliad yw Gruff Owen, rheolwr label Libertino: “Mae DMC yn ddiwrnod mor bositif ac yn cael effaith arbennig ar rifau 'streaming' ein hartistiaid". Ymhlith yr artistiaid hynny yw Adwaith ac wrth i 'Fel i Fod' agosáu at filiwn o ffrydiau, mae Gruff yn pwysleisio ei bod hi'n "dda cael rheswm i ddathlu pa mor anhygoel yw cerddoriaeth Cymraeg ac yn agor y drws i bobl o Gymru a thu hwnt i syrthio mewn cariad â'n cerddoriaeth". Mae’r cwmni Working Word, sy’n cydlynu cynllun marchnata’r diwrnod, hefyd yn cefnogi bod y dathliad yn cyflwyno cerddoriaeth Cymraeg i gynulleidfa ryngwladol yn ogystal ag yn annog fwy o bobl i ddysgu'r Gymraeg.

Wrth i’r byd barhau i wynebu heriau COVID-19, bydd dathliadau Dydd Miwsig Cymru eleni yn talu teyrnged i’r holl leoliadau annibynnol sydd wrth galon ein cymunedau. Yn rhan o’r dathliadau mae Clwb Ifor Bach (Caerdydd), Le Pub (Casnewydd), Selar (Aberteifi), Bunkhouse (Abertawe) a Galeri Caernarfon - wedi iddynt gyhoeddi heddiw cyfres o gigs am ddim gyda HMS Morris, Gwenno Morgan, SYBS, Mellt, EÄDYTH, Tiger Bay a Pys Melyn yn perfformio. Mae Dydd Miwsig Cymru 2022 hefyd yn glanio yn ystod Wythnos Lleoliadau Annibynnol - dathliad 7 diwrnod o leoliadau cerddorol ledled y DU. Er bod lleoliadau annibynnol wedi gorfod addasu i gyfyngiadau newidiol y pandemig, maent yn gartref i gerddoriaeth Cymraeg ac yn rhoi llwyfan i artistiaid newydd.

Mae Naomi Saunders, Cyfarwyddwr Creadigol Galeri Caernarfon, ynghlwm â’r dathliadau ac yn egluro pwysigrwydd canolfannau o’r fath: "Mae lleoliadau cerddorol yn hanfodol i oroesiad creadigrwydd a diwylliant. Yn ogystal â rhoi llwyfan i fandiau profiadol ac amhrofiadol, mae’r lleoliadau yma yn ganolbwynt i’n cymunedau - yn fan cwrdd i hen ffrindiau, yn le i ehangu gorwelion ac yn hafan sydd yn galluogi pobl i gau’r drws ar weddill y byd, i arafu ac i fyw yn y foment. Bob un a’i gymeriad ei hun, mae hud a lledrith yn digwydd mewn llefydd ewfforig fel hyn".

Er gwaetha’r cyfyngiadau, gwelwyd llu o artistiaid yn rhyddhau cerddoriaeth Cymraeg yn 2021 - rhai newydd a rhai cyfarwydd. Rhyddheir 485 o gynnyrch Cymraeg newydd y llynedd – o senglau, LPs a chatalogau – a’r cwbl wedi’i ddosbarthu drwy PYST. Wrth i gerddoriaeth fyw ddychwelyd i Gymru a phrosiectau datblygu Gorwelion a Forté gefnogi mwy o artistiaid nag erioed eleni, mae Klust yn edrych ymlaen at ddilyn y don nesaf o gerddoriaeth Cymraeg. 

Dathlwch #DyddMiwsigCymru gyda Klust wrth wrando ar ein rhestr chwarae ‘22 i’w Gwylio’:

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

Mix Mercher: Eädyth

Next
Next

Mix Mercher + Premiere: Gwenno Morgan - ‘Trai’