Trac newydd Sywel Nyw: ‘Bwgi’

Yn neidio rhwng dawns ac electronica meddal

Ers rhyddhau ‘Deuddeg’, Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2022, mae Sywel Nyw wedi mynd â’i gerddoriaeth i gyfeiriad gwahanol, mwy arbrofol o bosib, sy’n neidio rhwng arddulliau dawns ac electronica. ‘Lleidr Amser’ oedd man cychwyn yr arbrofi, yn enwedig ail ran y trac, cyn iddo symud ymlaen i ‘Disgo Newydd’ a ‘Dan y Dŵr’, gafodd ei gynhyrchu ar y cyd gyda Gillie a Mared fel rhan o sesiwn BBC Radio Cymru a Gorwelion ar Ddydd Miwsig Cymru.  

Yn mynd â hynny gam ymhellach, mae’r cynhyrchydd yn rhoi ei farc ei hun ar ‘Bwgi’, hen glasur Bando ddaeth allan yn wreiddiol yn 1980. Sampl o’r trac honno sy’n ffurfio’r asgwrn cefn amlwg, gyda’r pianydd amryddawn, Gwenno Morgan — sydd hefyd, fel Lewys, yn byw yn Llundain — yn darparu’r allweddellau hafaidd. 

Gan ddychmygu y gallai hon fyw’n braf ar gatalog Ninja Tune, gadewch i ‘Bwgi’ eich tywys ar grwydr hapus, yma:  

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Next
Next

Honddu’s debut cut, ‘The Gallop of Love’