Sengl newydd Griff Lynch: ‘Kombucha’

Sengl newydd Griff Lynch, ‘Kombucha’, i lanio ddydd Gwener nesaf, gyda’i albwm solo cyntaf i ddilyn cyn diwedd y flwyddyn

Er nad ydi Griff Lynch yn enw, na’n wyneb, newydd i gynulleidfaoedd Cymru, mae 2024 yn dynodi pennod newydd iddo fel cerddor. Yn rhannu ei amser rhwng Llundain a Chaerdydd — yn cyfarwyddo a’n creu tu ôl i’r camera — eglura Griff bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai “cymhleth a phrysur”, gan olygu iddo golli golwg ar ei gariad cyntaf; cerddoriaeth. “Ar ôl cyfnod weddol hir o beidio rhyddhau dim byd, dwi’n ail-ffeindio’n hun 'chydig bach, wrth sylweddoli na cerddoriaeth oedd dechrau pob dim i fi. Falla bo fi wedi bradychu hynny dros y blynyddoedd diwetha’, ond dwi’n falch bod yr awen yn ôl!”

Nôl yn creu caneuon a’n bwysicach, yn eu rhyddhau nhw hefyd, ‘Kombucha’ fydd y sengl gyntaf iddo ryddhau ers i felodïau ‘Os Ti’n Teimlo’ gadw cwmni yn 2021, ac mae’n debyg bod mwy ar y ffordd wedi hynny hefyd. Eglura Griff: “‘Kombucha’ ydi’r gân gyntaf, wrth imi anelu am albwm cyn diwedd y flwyddyn. Mae wedi cymryd hydoedd i mi gyrraedd y pwynt yma, ond mae’n teimlo’n amser da i mi ryddhau cyfanwaith.”

“Ma’ wedi cymryd oes i gael casgliad o ganeuon at ei gilydd, yn bennaf achos bo fi’n recordio pob dim fy hun ond ydi, ma’n gyffrous rhyddhau pethau eto!” Mae ei ôl troed cerddorol i'w glywed ar y trac yma hefyd — bachog, llethol a’n cynnwys sawl haen wahanol o synths. Er hynny, mae teimlad ysgafnach, mwy gobeithiol bron yn perthyn iddi: “Dwi’n meddwl nes i ‘sgwennu’r melodi a’r riffs yn wreiddiol ‘chydig ddyddiau ar ôl gwyl Green Man yn 2021. Yr wŷl gyntaf yn ôl y cyfnod clo. Roedd 'na deimlad o euphoria yn yr ŵyl oherwydd mai dyna’r tro cyntaf i bobl fod mewn sefyllfa o’r fath ers cyhyd. Dwi’n meddwl fod y melodi yn dal chydig o hynna.”

Gan gyfeirio at y geiriau, ychwanegai: “Mae’r geiriau yn rhyw fath o olwg tafod yn y boch ar ‘consumerism’ bywyd iach, ond hefyd pryderon cefndirol o fynd yn hen, ac felly yn prynu i mewn i’r lol. Ond yn bennaf, mae’r gân yn esgus i gael defnyddio’r gair ‘Kombucha’, achos mae’n swnio’n dda.” 

Wedi’i nadu ar y trac hefyd mae trefniannau llinynnol Owain Llwyd, elfen oedd Griff yn awyddus i’w hychwanegu o’r dechrau: “Gan mod i wedi recordio hon, ac ambell un arall o’r casgliad newydd, i gyd fy hun, mi o ni’n teimlo mod i’n colli elfen fyw yn y sŵn. Dyna pam ges i Owain Llwyd i mewn, i greu trefniannau llinynnol dros ryw 4 o’r caneuon. Yn achos ‘Kombucha’, dwi'n teimlo bod hi wedi dod ac elfen fwy disgo i’r cynhyrchiad. Aetho' ni ati i recordio nhw yn Urchin Studios yn Hackney, i gyd yn fyw, ac i fi, mae’n dod a’r caneuon yn fyw!”

Ydi hynny’n awgrymu y byddai’r caneuon eraill yn dilyn yr un trywydd hefyd? “Alla’i ddim gaddo bod gweddill y caneuon yn rai mor fywiog a dawnsiadwy a’r sengl gyntaf, ond dwi’n gobeithio fod y casgliad yn amrywiol, ac yn adlewyrchu be dwi wedi'i deimlo a’i brofi dros y blynyddoedd diwethaf,” ac wedi meddwl, na fyddai’n albwm Griff Lynch heb ganeuon serch, melancolig. Yn awgrymu fydd yr albwm yn cynnwys ambell i ganwr gwadd arni hefyd, mae ‘Kombucha’ yn teimlo fel y cam cyntaf i mewn i fyd lliwgar, digyfaddawd, newydd. 

Tra bod y tiwns yn y ffwrn felly, bydd modd dal Griff a’i fand yn chwarae draw yn Tafwyl yn Gaerdydd, yn ogystal ag ambell i gig arall (i’w  cyhoeddi), dros yr haf: “Do, am ryw reswm gwirion dwi wedi penderfynu bod hi’n amser perfformio yn fyw eto. Falle achos mod i’n colli’r teimlad, ac ofn bod allan o’r gêm mor hir lle fyddai ofn gwneud byth eto. O ni’n mwynhau perfformio cymaint pan o ni’n ifancach, felly dwi’n gwneud ymdrech i ddal ymlaen i hynny, yn enwedig rŵan i hyrwyddo'r deunydd newydd. Dim ond ambell un dros yr haf, ac wedyn meddwl am fwy i lansio’r albym lawr y lein. Fyddai’n testio’r caneuon newydd dros y cyfnod yma hefyd…”

Cyn hynny, bydd fideo arbennig, wedi’i gyfarwyddo gan Griff, yn ymddangos ar Lŵp yn fuan i gyd-fynd â’r trac. Eglura Griff: “Da ni wedi creu fideo i gyd fynd efo ‘Kombucha’. Mae’r gân wedi bod yn fyw iawn yn y meddwl i, o ran delwedd a vibe, felly mae’r fideo yn rhoi blas o beth sydd yn fy mhen i wrth ganu’r gân. Mae’r fideo yn dilyn fi mewn archfarchnad fwyd iach futuristic, ond cael fy nhemtio i brynu pop sothach yn y siop. Mi ddoth Efa Dyfan, y dylunydd, yn rhan o’r syniad yn fuan iawn, a hi sydd wedi adeiladu a dylunio’r set. Ma hi’n wych ac wedi dod a’r holl beth yn fyw.” 

Bydd sengl newydd Griff Lynch, ‘Kombucha’, allan 31 Mai ar ei label ei hun, Lwcus T, gyda’i albwm i ddilyn cyn diwedd y flwyddyn.  

Lluniau: Carys Huws + Andy Pritchard

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

BERIAN: ‘DSD’

Next
Next

Trac newydd Sywel Nyw: ‘Bwgi’