Sgwrs sydyn gyda Thallo am ei sengl newydd ‘Carry Me’
Yn rhannu rhagflas o’i EP ddwyieithog newydd sbon ‘Crescent’ — fydd yn dilyn ym mis Medi eleni — mae ‘Carry Me’ yn gyfuniad gyfoethog o jazz a phop hudolus. Wedi’i dylanwadu gan ei phrofiad personol o boen cronig, dyma Elin Edwards yn son ychydig am ei phennod newydd:
Haia Elin a diolch yn fawr am eistedd i lawr efo Klust! Mae 2022 wedi bod yn brysur iawn iti hyd yma — o recordio ym Maida Vale i ryddhau fideo cerddorol a chydweithio gyda Sŵnami — oeddet ti’n rhagweld cyfnod mor brysur ar ddechrau’r flwyddyn?
Roeddwn i fod i ryddhau’r sengl gyntaf ym mis Ebrill felly rydw i ‘chydig bach ar ei hôl hi! Wnaeth cofid effeithio ar yr amserlen recordio ar ôl i dipyn o bobl fynd yn sâl ar ôl dolig felly roedd rhaid gwthio recordio ymlaen. Yn wreiddiol, doeddwn i heb fwriadu rhyddhau'r sesiwn byw Maida Vale gyda Radio Cymru, felly roedd hwnna yn mishap gwych fod 'na fwlch yn yr amserlen. Dwi mor hapus ‘mod i wedi gallu rhyddhau’r EP byw sy’n cynnwys hen ganeuon fel ‘Olwen’ o fy EP cyntaf ‘Nhw’, gan ei fod yn rhiw fath o ffarwel iddynt cyn i’r caneuon newydd ddod allan.
Ydi ‘Carry Me’ felly yn teimlo fel pennod newydd?
Wnes i sgwennu ‘Carry Me’ dwy flynadd yn ôl a’i recordio hi ‘chydig o fisoedd yn ôl felly mae’n hen bryd iddi dod allan! Dwi’n gobeithio bod cyfeiriad newydd y sain yn creu pennod newydd — er dwi’n dal i ddatblygu fy syniadau o hyd! Yr hynaf dwi’n mynd, y fwya’ pop-y a direct mae’r caneuon yn mynd. Mae bywyd yn fyr, get to the chorus!
Wyt ti’n hapus i egluro ychydig tu ôl i’r gan — sut daeth y cynhyrchiad a’r geiriau at ei gilydd?
Sgwenais ‘Carry Me’ yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn 2020 wrth imi ddechra brofi poen cronig yn fy mhengliniau. Roedd yn gyfnod rhyfedd o golli fy ngwaith, bywyd cymdeithasol, ac yna beth oedd yn teimlo fel colli fy nghorff i boen cyson. Roeddwn i wedi mynd o fod yn holliach i brin gallu sefyll mewn cyfnod byr iawn ac yn brwydro dros gael gofal iechyd tra doedd genai’m clem beth oedd yn bod arna’i. Teimlais yn gwbl anobeithiol a gwelais don gyfarwydd o iselder yn nesáu. Mae ‘Carry Me’ yn ymwneud â’r union foment honno.
Ro’n i’n cael trafferth sgwennu cerddoriaeth ar y pryd felly penderfynais fyfyrio geiriau a chordiau mewn un go heb feddwl gormod am y peth. Dyna sut sgwennais i'r gân! Wnes i triple trackio ukulele gyda lot o synths a llwythi o clarinets ar y demo adref. Wedyn yn y stiwdio, ychwanegais haen arall o gitâr nylon, rhoi rhannau clarinét i ffidil a trwmped a chael lot o weadau gwahanol yn y drum kit. Fy hoff ran ydi’r bass synth a gafodd ei greu gyda modular synth. Roedd y steil electronig yma wedi cael ei greu oherwydd y cyfnod clo lle doeddwn i methu jamio’r gân gyda cherddorion eraill.
Mae dy ganeuon wastad yn teimlo mor gyfoethog yn offerynnol — a’i dyna dy fwynhad mwya’ wrth greu cerddoriaeth newydd?
Diolch yn fawr! Fy hoff beth am sgwennu caneuon ydi creu’r trefniannau a haenau yma. Byswn i wrth fy modd rywbryd yn creu traciau offerynnol heb lais a heb eiriau. Unwaith dwi’n dechrau creu demo, a chlywed y patrwm/llinell gyntaf, dwi wedyn yn clywed haen ar ôl haen a dwi methu stopio! Dwi fel arfer yn trio stopio ar ôl ryw 13 clarinét. Y rhan anoddaf ydi torri nôl ar syniadau! Bydd o’n sialens dda i mi drio creu trefniant minimal ryw dro!
Ac mae rhaid trafod dy ran yn yr hyfryd ‘Be Bynnag Fydd’! Sut brofiad oedd hi i gydweithio gyda Sŵnami ac oes mwy o gydweithio ar y gweill?
Dwi wrth fy modd efo’r gân yma! Roedd o’n fraint canu BVs arni ac roedd o’n hwyl cydweithio efo Sŵnami. Dydw i ddim yn dueddol o ddewis cydweithio fel arfer. Dydi sgwennu geiriau ac alaw (llais) ddim yn dod yn hawdd i mi, felly mae’n teimlo fel chydig o ‘chore’! Dwi’n cael gymaint o hwyl yn sgwennu cordiau a pharatoi’r trefniant — sydd ella ddim be mae rhan fwyaf o bobl eisiau pan maen nhw’n chwilio i gydweithio efo cantores! Ond weithiau dwi'n rili mwynhau cydweithio ar ganeuon a chael blas ar steil hollol wahanol o gerddoriaeth na fyddwn i byth yn creu ar ben fy hun. Mae mwy o waith cydweithiol ar y ffordd…
Diolch am y sgwrs Elin! Lle cawn weld dy gerddoriaeth newydd yn fyw am y tro cyntaf?
Dwi’n rili edrych mlaen at berfformio yn Tafwyl ar Ddydd Sul y 19eg gyda band llawn. Bydd o’n un o nifer fach o gigs dwi am neud eleni felly peidiwch â methu fo!
Ffrydiwch 'Carry Me' gan Thallo yma: