Adolygiad Albwm: ‘Byd Heb’ Ystyr

Yn cyfleu teimladau cyfarwydd drwy weadau cathartig, mae albwm cyntaf Ystyr yn neidio rhwng gobaith, tristwch a myfyrdod. 

Conor, Rhys (Plant Duw), Rhodri (Cyrion) a Pete yw Ystyr ac mae ‘Byd Heb’ yn cwestiynu sut mae bodoli a bodloni yn ein byd cymhleth heddiw. Yn mynegi’r rhwystredigaeth dystopaidd hynny drwy guriadau tywyll a geiriau dwys, mae’r casgliad yn ein gorfodi i ail-ystyried ac ail-feddwl. Prif thema’r albwm yw adlewyrchu ar ddiwrnodau ailadroddus y pandemig ac mae’r ddwy gan agoriadol ‘Disgwyl am yr Haf’ ac ‘Y Clô’ yn lleisio’r anobaith hynny: “Dim byd ‘dan reolaeth ond meddwl am farwolaeth”. 

Cyfeiria Conor at y casgliad fel “outlet cerddorol i’r cyfnod” ac er bod y geiriau’n dyner, mae’r offeryniaeth yn gyfoethog — yn enwedig yn nhrefniant llinynnol y melancolig ‘Teimlad Hydrefol’. Yr anthemig ‘Tyrd a dy Gariad’ sy’n serennu ond mae ‘Adferiad’ hefyd yn uchafbwynt amlwg gan ei bod yn plethu gwreiddiau gwerinol y band gydag arddull electroneg Teleri. Wrth symud o’r hamddenol ‘Pysgod’ i’r hiraethus ‘Brig y Copa’, mae’r albwm yn cloi gyda’r gân serch traddodiadol ‘Y Deryn Pur’. Albwm deg-trac yw ‘Byd Heb’ ond mai’n llwyddo i grafu cydwybod ymhell wedi ei gwrandawiad.

Gwrandewch ar 'Byd Heb' Ystyr yma:

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

Sachasom in the spotlight

Next
Next

Sgwrs sydyn gyda Thallo am ei sengl newydd ‘Carry Me’