Fideo i gyd-fynd â sengl newydd Candelas: ‘Cysgod Mis Hydref’
Rhyddheir ‘Cysgod Mis Hydref’ gan Candelas ddydd Gwener 27ain o Fai ar label recordiau I KA CHING.
Mae Candelas yn dal eu gafael yn dynn ar eu teitl hirsefydlog o fod yn un o fandiau amlycaf Cymru. Rhyddheir ‘Mae’n Amser / We Think It’s Time’ y llynedd, cyn rhyddhau fersiwn newydd o’r eiconig ‘Y Gwylwyr’ (gyda Nest Llewelyn) eleni fel rhan o gasgliad amlgyfrannog I KA CHING. Yn dychwelyd gydag anthem arall i’w casgliad, mae ‘Cysgod Mis Hydref’ yn ddigyfaddawd o drwm ac yn sicr o aros yn y co’.
Mae ‘Cysgod Mis Hydref’ yn gân serch glwyddog sy’n gweld prif-leisydd y band, Osian Huw Williams, yn hiraethu am y teimlad cynnes o fod mewn cariad. Wrth iddo fyfyrio ar gysgodion tywyll y gaeaf, flagurodd y gytgan — ‘Un noson ac mae’r ysfa yn ôl, fatha creu tân oer yn y gaeaf. Dy weld di’n gorwedd fel cysgod mis Hydref, yn nefoedd mewn noson o haf'.
Wedi ei chyfarwyddo a’i saethu gan yr artist Rhys Grail, mae fideo ‘Cysgod Mis Hydref’ yn gasgliad deng-mlynedd o gigs Candelas ac yn deyrnged i ddathliadau deng mlwyddiant label I KA CHING. Gwyliwch ‘Cysgod Mis Hydref’ am y tro cyntaf yma: