Dom James a Lloyd Lewis yn rhyddhau 'Pwy Sy'n Galw?'
Er y bydd wynebau Lloyd Lewis a Dom James yn adnabyddus i rai fel cyfranwyr Hansh, bydd eu prosiect diweddaraf ar y sgrin — sef fideo i’w sengl newydd, 'Pwy Sy’n Galw?', ychydig yn wahanol. Gyda cherddoriaeth yn elfen bwysig o fywydau'r ddau erioed, mae cyrraedd y nod o ryddhau eu hail sengl, yn achlysur i’w ddathlu.
Cân rap yw 'Pwy Sy’n Galw?', “genre sydd wedi ei dangynrychioli yn y Gymraeg” yn ôl Lloyd. A thrwy gynhyrchu cân fachog, llawn curiadau yn yr iaith Gymraeg, maent yn gobeithio cyflwyno'r iaith i gynulleidfaoedd newydd. Dywedodd Dom James, sy’n dod o Gaerdydd: “Nes i estyn mas i Lloyd nôl yn 2017 i ofyn iddo gyd-weithio ‘da fi ar gerddoriaeth. Mi wnes i ddysgu Cymraeg yn ystod fy amser yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd a Lloyd yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhontypwl. Ers hynny, mae’r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i’r ddau o ni, felly roedd cyfuno’r iaith a cherddoriaeth yn bwysig hefyd”.
Yn ôl Lloyd, sydd o Gwmbran: “Roedd Dom eisoes yn gwneud cerddoriaeth gyda Don (Donald Phythian), sydd bellach yn DJ a chynhyrchydd i ni. Naethon ni greu ein cân gyntaf Cymraeg, 'Sawl Tro', tua blwyddyn yn ôl i berfformio ar raglen Lŵp Curadur Lemfreck. Roedd yr ymateb yn anhygoel felly o'n ni'n gwybod roedd bendant lle i ni greu mwy o rap Cymraeg. Penderfynon ni ffocysu ar neud cwpl o ganeuon Cymraeg a dyna lle ddaeth 'Pwy Sy'n Galw?' i fodolaeth".
Er nad oedd y trac wedi ei ryddhau ar blatfformau ffrydio eto, fe wnaeth ddenu sylw un o DJ’s mwyaf dylanwadol Cymru, Huw Stephens: “Pan nes i chwarae Pwy Sy'n Galw? ar BBC Radio Cymru, gath y gân yr ymateb gore o unrhyw gân fi wedi chwarae ar y sioe mewn blynyddoedd” meddai Huw. “Roedd cerddorion, ffans a hyrwyddwyr yn cysylltu yn gofyn; ble alla'i gael y gân yna?! Mae'n wych, a gallai wir ddim aros i glywed be maen nhw'n 'neud nesa".
“Ar ôl ymateb gwych i'r gân o'n ni'n gwybod bod rhaid neud fideo” ychwanegodd Lloyd. “Wnaeth Lŵp S4C gytuno i helpu ni. Cefais i'r syniad i'r fideo gael ei osod mewn call centre - a wnaeth Owain yn Orchard helpu i ddatblygu ein syniad. Roedd e'n lot o hwyl yn creu'r fideo a fi'n meddwl bod hwnna yn dod ar draws wrth wylio fe. Dechrau ein siwrne yw 'Pwy Sy'n Galw?'. Bwriad ni fel triawd yw i cario ‘mlaen creu a rhyddhau cerddoriaeth Cymraeg a gweld pa mor bell allwn ni fynd ag e. Mae gyda ni lot o ddigwyddiadau a sets yn yr haf i edrych ymlaen i - mae'r dyfodol yn gyffrous".
Mwynhewch fideo 'Pwy Sy'n Galw?' ar sianel YouTube Lŵp yma: