Ailgymysgiad cyntaf Sywel Nyw — 'Red Adair' (Cpt. Smith)
Wedi iddo ryddhau sengl y mis am flwyddyn gyfan y llynedd, mae Sywel Nyw yn ôl gyda'i ailgymysgiad cyntaf 'Red Adair'. Yn wahanol i gysyniad 'Deuddeg', lle gwahoddir deuddeg o wahanol artistiaid i gyd-sgwennu'r senglau, Sywel Nyw ei hun yma sy'n ail-gyfeirio trac gan artist annisgwyl. Yn rhyddhau fel rhan o ddathliadau deng mlwyddiant label I KA CHING, mae ailgymysgiad cyntaf Sywel Nyw yn atgyfnerthu ei allu cynhenid i arbrofi.
Er nad yw Cpt. Smith yn perfformio bellach, mae’r sawl a’i gwyliodd yn perfformio’n fyw yn gallu cofio’n glir yr egni hypnotig oedd ganddynt ar lwyfan, a’r grym oedd y tu ôl i’w cerddoriaeth. Fe ymuno nhw â label I KA CHING nôl yn 2016 gan ryddhau dwy sengl – ‘Llenyddiaeth’ a ‘Bad Taste’ – cyn rhyddhau'r EP ‘Propeller’ ar ddiwedd y flwyddyn. Yn eistedd yng nghanol yr EP hynny mae 'Red Adair' – can sy'n crynhoi sain ac agwedd y band o Orllewin Cymru.
Yn trawsnewid 'Red Adair' o fod yn gan pync dywyll, eglura Lewys Wyn (Sywel Nyw): “Dyma fy ymdrech cynta' ar remix! Ma' hon yn bangar o drac gan Cpt Smith, a dw i ‘di trio cadw elfennau o'r drive gwreiddiol gan roi sbin fwy pop arni. Nes i ddilyn fy ngreddf greadigol ar y pryd...ar y laptop ar drên o'r Gaerdydd i Lundain a bod yn fanwl gywir”. Dyma'r esgus perffaith i fynd yn ôl i wrando ar un o EPs fwyaf dylanwadol y cyfnod.
Bydd 'Red Adair', yn ogystal â phymtheg can neu ailgymysgiad arall, yn ymddangos ar gasgliad deg mlwyddiant I KA CHING ar Fai 20. Gwrandewch yma: