Sgwrs sydyn gyda Dion Jones
Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant yw gŵyl flynyddol dinas Lorient sy’n dathlu cerddoriaeth a diwylliant Celtaidd. Ers 1971, mae cannoedd o artistiaid wedi perfformio fel rhan o’r ŵyl - gŵyl sydd bellach yn gweld cynrychiolaeth o Lydaw, Cernyw, Cymru, Iwerddon, Yr Alban, Ynys Manaw, Ynys Cape Breton, Galicia ac Asturias. Yn tyfu ac yn ehangu bob blwyddyn, un artist gafodd y cyfle i fod yn rhan o’r cwbl eleni oedd Alffa. Mewn sgwrs arbennig gyda Klust, dyma un hanner o’r band, Dion Jones, yn sôn ychydig am y cyfle.
Hei Dion a diolch am ymuno am sgwrs! Sut haf wyt ti wedi’i chael?
Heii, haf byr ond prysur. Syth o’r Eisteddfod i Lorient! Fel band, 7 gig mewn pythefnos a lot o drafeilio!
Dwi’n siŵr! Sut deimlad ydi hi fod nôl ar lwyfan?
Teimlad braf iawn, wnaeth covid daro ni yn ganol hyrwyddo ein halbwm felly oedd ‘na bach o unfinished business! Braf cael bod stuck in eto a hefyd cyflawni un o uchafbwyntiau Alffa sef chwarae gyda’r gerddorfa!
Mi oedd honna’n noson a hanner! O Dregaron i Lorient - Sut daeth y cyfle i fynd draw yno yn y lle cyntaf?
Ddoth y cynnig gan Antwn Owen-Hicks, sydd wedi gwneud cysylltiad gyda ni ers dipyn rŵan drwy wylio ni yn Focus Wales. Mae Antwn wedi bod yn mynd draw i’r ŵyl ers sawl blwyddyn a oedd o’n meddwl bysa ni’n gweithio yn dda yno! Pryd ddoth y cynnig, oddo'n no brainer rili.
Oedd gennych chi unrhyw ddisgwyliadau arbennig?
Na dim disgwyliadau o gwbl, ‘da ni’n trio cymryd bob gig fel ma nhw’n dod a chwarae pob gig fel ein gig olaf. Oddo’n fwy o gyffro rili i weld sut fath o ymateb fysa ni’n cael.
Fel band, ‘da chi 'di bachu ar sawl cyfle bellach i berfformio mewn gwyliau a lleoliadau gwahanol. Pa mor bwysig ydi hynna i Alffa?
Mai’n gyffrous iawn, ‘da ni wastad eisiau gwthio ein hunain i weld lle allwni fynd. Oddo'n braf cael ymateb mor bositif 'leni hefyd ac yn hwb hiwj i ni. Gobeithio gallan ni neud mwy o gigs fel yma!
Gyda’r haf yn prysur dod i ben, oes mwy o gigs ar y gorwel?
Yr unig beth nai ddeud ydi bod ni wedi bod yn recordio…da ni’m yn licio wastio amser felly fyddna wbath allan reit handi.
Gwych! Diolch eto i Dion am y sgwrs. Daliwch ran o’u set o Lydaw yma: