Future Yard: That Summer Feeling

Heb os, un o uchafbwyntiau'r Haf.

Ar yr arwyneb, mae cynnal gig Cymraeg ar lannau’r Mersi yn ymddangos yn chwyldroadol ond mae cysylltiad y Cymry â Chilgwri yn un cryf – wedi’r cwbl, Penbedw oedd cartref yr Eisteddfod yn 1917 wrth gwrs. Yn gaffi yn ystod y dydd ac yn gigfan gyda’r nos, Future Yard yw canolbwynt cymunedol a chelfyddydol Penbedw. Wedi’i naddu yn PR yr ŵyl oedd ‘Dathliad o bop annibynnol’ a dyna’n union be’ gawson ni wrth i Kim Hon, Ani Glass ac Adwaith sefyll ochr yn ochr â rhai o artistiaid fwyaf cyffrous yr ardal leol. 

Gyda deuddeg artist yn perfformio i gyd, cafodd y rhaglen ei hollti ar draws dau lwyfan ac felly wrth i’r haul fachlud, gwagiodd hefyd wnaeth y cwrt concrit clud i brofi’r hyn oedd gan Kim Hon i gynnig ar y llwyfan llethol tu mewn. Yr ateb: Egni chwareus a churiadau pop-punk cariadus – gan ein hatgoffa unwaith eto bod perfformiadau byw Kim Hon yn danboeth. Hawdd byddai wedi meddwl fod Kim Hon yn fand sy’n teithio’n rheolaidd ond yn syndod i bawb, dyma oedd perfformiad cynta’r band tu allan i Gymru. Doedd Adwaith ddim yn bell ar eu holau chwaith wrth iddynt dreiddio melodïau heintus eu perlau newydd i ddyfnderoedd yr ystafell gyda’r arbennig ‘ETO’, ‘Wedi Blino’ a ‘Sudd’. Alawon cynnes Ani Glass ddaeth a’r goresgyniad Cymreig i ben wrth iddi beintio waliau’r ystafell gyda pop-perffaith ei halbwm ‘Mirores’ - gan gynnig cipolwg cyflym o’i senglau newydd hefyd. Chwip o lein-yp a chwip o noson – ymlaen i ddyfodol lle gweler artistiaid Cymraeg yn perfformio’n ddi-rwystr tu hwnt i’r ffin.  

Bydd Penbedw yn gartref i artist o Gymru unwaith eto'r gaeaf hwn wrth i Sister Wives ddod a'u curiadau psychedelaidd i Future Yard ar 20 Tachwedd. Bachwch docyn yma

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

Sgwrs sydyn gyda Dion Jones

Next
Next

Mix Mis Awst: Hana Lili