Mix Mis Awst: Hana Lili
Mae Mix Mercher Klust yn ei ôl — a’r cyntaf i ymddangos ar ein cyfres fisol newydd yw’r artist pop Hana Lili.
Wedi iddi ryddhau ei EP gyntaf y llynedd ‘Flowers Die In The Summer’, sy’n cynnwys yr hyfryd ‘Red Hearts’ a ‘Stay’, mae ei sengl ddiweddara’ ‘Burden’ yn dilyn yn yr un modd gyda melodïau melys, breuddwydiol. Fis diwethaf, aeth Hana draw i’r Iseldiroedd i gynrychioli Gorwelion yn yr ŵyl arbrofol ‘Welcome to the Village’ — a thra yno, cydweithiodd gyda’r artist lleol Moonloops.
Eglura Hana: “Fe deithiais allan i Leeuwarden, tref fach yng Ngogledd yr Iseldiroedd, i berfformio yng ngŵyl ‘Welcome to the village’. Treuliais wythnos yn cydweithio gydag artist o’r enw Moonloops, wrth i ni ysgrifennu a recordio caneuon newydd gyda’n gilydd. Fe wnes i hefyd fwynhau mynychu cyngherddau lleol a seiclo o le i le i werthfawrogi diwylliant diddorol y wlad. Fe wnaeth y band gyrraedd diwedd yr wythnos ac fe wnaethom berfformio yn Neushoorn fel rhan o’r ŵyl. Roedd yn brofiad anhygoel perfformio am y tro cyntaf i gynulleidfaoedd tu allan i Gymru — diolch i brosiect Excite Music Network a Gorwelion am y cyfle unigryw yma!”.
Yn dewis ei huchafbwyntiau o'i thaith i'r Iseldiroedd, dyma Mix Mis Awst Hana Lili: