Ail sengl skylrk. a’r cynta’ ‘dan ei label INOIS: ‘adfywio.’
Yn rhyddhau ei ail sengl fel artist a’r cynta’ ‘dan ei label newydd INOIS, mae Hedydd Ioan yn ôl gyda thrac sy’n plethu hip-hop a rap mewn arddull arbrofol, ailadroddus.
Wedi iddo ennill Brwydr y Bandiau y llynedd, mae skylrk. yn prysur sefydlu ei hun o fewn y cylchoedd cerddorol. Yn ogystal â bod yn rhan o raglen Forté eleni, mae wedi bod yn arbrofi gyda rhai o artistiaid fwyaf blaengar Cymru gan gynnwys Endaf, Fairhurst a Sachasom. Yn flwyddyn bellach ers iddo ryddhau ei sengl gynta’ ‘dall.’ braf yw darganfod bod y cynhyrchydd o Ddyffryn Nantlle wedi bod yn gweithio ar gerddoriaeth ei hun yn y cyfamser.
Yn myfyrio ar ddatblygiad y gân, eglura Hedydd: “Odd ‘adfywio.’ yn un o’r caneuon cyntaf nes i ‘rioed recordio ‘dan yr enw skylrk. A deud y gwir, anfonais y fersiwn gwreiddiol allan i gael ei mastro tua’r un amser a ‘dall.’. Nes i hyd yn oed anfon hi allan i gael ei rhyddhau’n swyddogol - cyn ei thynnu hi lawr yn syth. Oni’n teimlo fel bod y gân ddim ddigon, ddim yn berffaith. Ond ar ôl siarad efo cwpwl o unigolion, sylwais ei bod hi’n berffaith yn amherffeithrwydd ei hun. Mae’r gân yn sôn am symud ymlaen a pheidio gadael i’r gorffennol eich diffinio”.
‘adfywio’ hefyd yw’r sengl gynta’ oddi ar y label annibynnol INOIS - label wedi’i gyd-ffurfio gan Hedydd a’i ffrind Osian Cai (sydd hefyd yn rhyddhau cerddoriaeth ‘dan yr enw Cai). Yn air sy’n perthyn i’r hen Gymraeg sy’n disgrifio anfarwoldeb, bwriad INOIS yw “creu cerddoriaeth a digwyddiadau fydd yn aros ym meddyliau pobl am amser hir”. Bydd skylrk. yn chwarae yn Caffi MaesB ddydd Mercher ac yn agor llwyfan MaesB nos Iau.
Ffrydiwch ei sengl newydd ‘adfywio.’ yma: