Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion
Gyda’r aros bron ar ben a'r gerddoriaeth ar fin dechrau, dyma ddewisiadau Klust i’ch helpu chi fapio’ch symudiadau ar faes yr Eisteddfod wythnos nesaf.
Yn dychwelyd i’w threfn arferol am y tro cyntaf ers tair blynedd, mae Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn agor gyda chynhyrchiad newydd sbon Fflur Dafydd, ‘Lloergan’. Wedi’i osod yn 2050, mae’r sioe wedi’i hadrodd drwy lygaid yr ofodwraig Lleuwen Jones wrth iddi wireddu breuddwyd oes o gael bod y ferch gyntaf ar y lleuad. Bellach yn eicon yn y byd seryddiaeth, pan mae Lleuwen yn dychwelyd i Gymru fach mae heriau newydd yn ei hwynebu wrth iddi frwydro rhwng cariad ac ymrwymiad, dyletswydd ac uchelgais, ac yn fwy na dim - rhwng y genedl a'r gofod. Yn adlais i’r cwbl bydd cerddoriaeth wreiddiol gan Griff Lynch (Yr Ods) a Lewys Wyn (Yr Eira, Sywel Nyw) - wedi’i gyd-berfformio gan gôr yr Eisteddfod. Wrth i’r Pafiliwn fenthyg alawon melancolig y ddau frawd, mae’n addo i fod yn noson - ac yn berfformiad i’w chofio.
Bydd y rhan fwyaf yn cyrraedd ddydd Sadwrn ac felly lle gwell i ddechrau’r wythnos nag wrth Lwyfan y Maes gydag un o brif fandiau Cymru ar hyn o bryd? Am 15:30 bydd Gwilym yn camu i’r llwyfan ar gyfer eu perfformiad cynta'r wythnos. Wedi cydweithio gyda Hana Lili yn ddiweddar ar yr hypnotig-hafaidd ‘cynbohir’, dyma gyfle i gael cipolwg cyflym o’u set cyn iddynt gloi MaesB ar y nos Fercher. Mae hanfodion dechrau-wythnos eraill yn cynnwys dychweliad hirddisgwyledig Cowbois Rhos Botwnnog, set newydd sbon Kizzy Crawford a pherfformiad pwerus Eadyth ac Izzy Rabey yn Caffi MaesB.
MaesB yw brawd bach direidus yr Eisteddfod ac am y tro cyntaf eleni bydd dau lwyfan yn ogystal â’r llwyfan DJ’s yno - gyda’r naill amserlen yn cyd-redeg i osgoi siom. Wrth i gymaint o artistiaid fod wedi eistedd ar gynnyrch newydd ers tro byd, golygai’r drefn newydd y bydd 30 o artistiaid yn perfformio ar y naill lwyfan rhwng Awst 2-6. Ymhlith yr albyms fydd yn ymgartrefu ei hunain ym MaesB am y tro cyntaf eleni fydd ‘Sbwriel Gwyn’ (Los Blancos), ‘Hir Oes i’r Cof’ (Breichiau Hir), ‘Amser Mynd Adra’ (Papur Wal) a ‘Bywyd Llonydd’ (Pys Melyn) - heb son am senglau newydd Mali Haf, Eadyth a Chroma. Yn rhan o’r rhaglen hefyd mae artistiaid a DJ’s sy’n torri tir newydd yn y Gymraeg gan gynnwys Lloyd + Dom James, Skylrk, Talulah a Sachasom - gan ei gwneud yn rhaglen arbrofol sy’n adlewyrchu’r sin cerddorol yng Nghymru heddiw.
Wrth agosáu at ddiwedd yr wythnos, mae’n werth gwneud nodyn o gigs Cymdeithas yr Iaith. Yn cyflwyno'u curiadau alt-rock i’r clwb rygbi ar y nos Iau bydd y byd-adnabyddus, The Joy Formidable o’r Wyddgrug. Cyn dychwelyd i’r UDA am ddeufis o daith ar draws 40 o leoliadau gwahanol, bydd y band yn chwarae rhai o’u hanthemau anfarwol mewn lleoliad llawer llai na’r hyn y maent wedi’i arfer gydag - ewch am dro! Nôl ar faes yr Eisteddfod bydd Huw Stephens yn croesawu Gwilym, Adwaith, Mellt ac Alffa i’r llwyfan ar gyfer pedwerydd dathliad yr eiconig ‘Gig Y Pafiliwn’ gyda’r Gerddorfa’r Welsh Pops. Yn addo i fod yn chwip o noson, mae penderfyniad mawr i’w wneud nos Iau…
Yr Ods fydd yn cadw cwmni ar y nos Wener - ac er iddynt serennu yn nhywyllwch Clwb Ifor Bach rhai wythnosau yn ôl, cynefin y band yw llwyfannau mawr, agored. O glasuron megis ‘Nid Teledu Oedd y Bai’, ‘Y Bêl yn Rowlio’ a ‘Fel Hyn am Byth’ i berlau newydd oddi ar eu halbwm cysyniadol diweddar ‘Iaith y Nefoedd’, mae set Yr Ods yn ddi-fethu. Ac wrth baratoi at uchafbwynt yr wythnos, does dim angen rhagarweiniad i’r artist fydd yn perfformio’n fyw am y tro cyntaf nos Sadwrn nesaf. Wedi iddo ryddhau’r campwaith ‘Deuddeg’ y llynedd - cyfres o senglau misol wedi’i chyd-greu gydag unarddeg o artistiaid eraill, bydd gweld gwesteion arbennig Sywel Nyw yn camu i'r llwyfan un ar ôl un, yn wefr drydanol. Bellach yn un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop, crwydrwch gyrion Tregaron er mwyn profi gwir egni'r Eisteddfod.