Mix Mercher: Kathod
Yn curadu’n mix ar gyfer yr wythnos hon mae Kathod — criw o ferched creadigol sy’n tynnu cerddorion, hyrwyddwyr ac artistiaid gweledol ynghyd i gyd-greu cyfanweithiau amlgyfrannog arbennig.
Yn ystod ôl-barti Gwobrau’r Selar 2021, cyhoeddwyd y bydd Kathod yn rhyddhau eu EP gyntaf yr haf yma — gyda 14 o fenywod yn ymuno â’r fenter. Ffurfiwyd y prosiect yn ystod y cyfnod clo ac ymysg y sylfaenwyr oedd Heledd Watkins (HMS Morris), Bethan Mai (Rogue Jones) a Cat Morris (yna Merched yn Gwneud Miwsig). Gyda sain arbrofol a lein-yp di-ddiffiniad, gwahoddwyd Ani Glass i gyd-greu ‘Syniad o Amser’ yn 2020, cyn ehangu’n bellach y llynedd wrth wahodd Gwenno Morgan a Tegwen Bruce-Deans i gyd-gyfansoddi eu hail sengl ‘Gwenyn’ (Rhestr Fer Fideo Cerddoriaeth Gorau 2021; Gwenno Llwyd Till).
Bellach, mae Kathod yn cynnwys 14 aelod — 14 kath sydd wrthi’n arbrofi gyda dulliau cynhyrchu gwahanol wrth ddod a’u EP newydd sbon at ei gilydd. Yn cyfuno arddulliau cerddorol o wahanol begynau, mae'r EP yn cynnwys Beth Pugh, Cerys Hafana, Gwen Màiri, Laura Nunez, Malan, Mali Hâf, Manon Dafydd, Manon Wyn Jones, Marged Rhys, Lois Griffiths, Rebecca Wyn Kelly, Ruth Jones, Sara Alis a Tegwen Bruce-Deans. Hefyd yn adlewyrchu eu casgliad cerddorol eclectig mae eu Mix Mercher - mix sy’n ein tywys o alawon pop-breuddwydiol Mali Hâf i guriadau gwerin Cerys Hafana. Mwynhewch a llawenhewch yma: