Mix Mercher: Mared

O strwythurau sinematig ei halbwm cyntaf ‘Y Drefn’ (Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2021) i haenau heintus ei phrosiect newydd — mae Mared bellach yn un o artistiaid fwyaf blaenllaw Cymru. 

Wedi iddi ryddhau ‘Pictures’ ym mis Tachwedd a ‘Let Me Go’ ym mis Chwefror, mae Mared ar drothwy ei phennod pop-soul newydd — prosiect ar y cyd gyda’r cynhyrchydd a’r aml-offerynnydd, Nate Williams (hefyd yn aelod o Jamiroquai). Ers cyfarfod dros Instagram yn ystod y cyfnod clo, mae’r ddau wedi bod yn cyd-sgwennu wrth arbrofi gyda sain sy’n tynnu ar alawon lleddfol artistiaid megis Lianne La Havas, Emily King ac Eloise. Gyda churiadau chwareus Nate yn caniatáu i lais Mared serennu, mae’r ddwy sengl yn nodi ei hunaniaeth gerddorol gyfoethog. Bellach yn rhannu ei hamser rhwng Llundain a Llannefydd, bydd y gyfres gyfan 'Something Worth Losing’ yn cael ei rhyddhau fel EP yn ystod y gwanwyn. 

Yn ein cyflwyno i'w dylanwadau diweddar, dyma Mix Mercher Mared:

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

A round-up of our favourite new releases

Next
Next

Mix Mercher: Kathod