Mix Mercher: Chris Roberts

Mae ein Mix Mercher yr wythnos hon yn tynnu sylw at Ŵyl BBC Radio 6 Music — sydd i’w chynnal yng Nghaerdydd rhwng 1-3 Ebrill. Gyda rhai o artistiaid fwyaf cyffrous Cymru a thu hwnt yn dod ynghyd am benwythnos arbennig o gerddoriaeth, Chris Roberts o flog Sôn am Sîn sy'n rhannu ei ddewisiadau cerddorol ar gyfer yr ŵyl.

Wrth i leoliadau ail-agor a gigs eu hail-drefnu, cyhoeddwyd fore Mawrth gan Huw Stephens a Mary Anne Hobbs mai Caerdydd fydd yn croesawu Gŵyl BBC Radio 6 Music eleni - a hynny wedi dwy flynedd o seibiant yn sgil y pandemig. Bydd yr ŵyl yn cynnwys perfformiadau byw, setiau DJ a phaneli diwydiant ac yn cael ei chynnal mewn amryw o leoliadau ar draws y brifddinas gan gynnwys Neuadd Dewi Sant, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Tramshed. Ymysg y perfformwyr mae Little Simz, Self Esteem, IDLES, Bloc Party, Wet Leg a Pixies.

Yn ŵyl aml-leoliad sy’n dathlu bob mathau o wahanol gerddoriaeth, mae nifer o artistiaid Cymraeg hefyd ynghlwm a’r dathliadau gan gynnwys Carwyn Ellis & Rio 18, Georgia Ruth, Gruff Rhys, Gwenno, H. Hawkline ac Adwaith. Bydd digwyddiadau yn ystod y dydd yn ogystal â’r nos a bydd Clwb Ifor Bach yn cynnal Gŵyl Ymylol law yn llaw â'r cwbl ar ddydd Sadwrn, 2 Ebrill. Dyma ddewisiadau cerddorol Chris ar gyfer Gŵyl BBC Radio 6 Music:

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

Mix Mercher: Kathod

Next
Next

Aderyn: “I wanted everything to be dictated by emotion"