Mix Mercher: Endaf

O synau sinematig Mared i guriadau cysurus Ifan Davies, mae’n mix ganol-wythnos yn parhau i’n tywys o un cornel cerddorol i’r llall. Yn curadu’n Mix Mercher yr wythnos hon mae’r cynhyrchydd a’r DJ, Endaf. 

Yn creu, cynhyrchu ac yn cymysgu cerddoriaeth ei hun, mae Endaf hefyd yn arwain ar sawl prosiect tu ôl i’r llen — a’r ddiweddara’ iddo lansio yw ‘PROSI3KT’. Wedi’i harwain gan ei label High Grade Grooves, bwriad y cynllun yw creu cyfleoedd creadigol ar gyfer pobl ifanc 18-25 oed a’u paratoi ar gyfer y diwydiant digwyddiadau yng Ngogledd Cymru. Yn brosiect 6 mis o hyd wedi’i harwain gan Endaf, Hollie Profit a Klaudia Zawadka, bydd y cynllun mentora yn meithrin 8 o unigolion arbennig yn y meysydd rheoli, ffotograffiaeth, goleuo, dylunio a chyfansoddi. Dyddiad cau’r ceisiadau yw Mawrth 18 // Am fwy o wybodaeth, ewch i High Grade Grooves

Yn rhannu rhagflas o’i rythmau hypnotig a’i awydd i arbrofi, dyma Mix Mercher Endaf:

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

Ail bennod Sŵnami yn parhau gyda ‘Be Bynnag Fydd’

Next
Next

EP i gyd-fynd â chynhyrchiad newydd Frân Wen — Ynys Alys