EP i gyd-fynd â chynhyrchiad newydd Frân Wen — Ynys Alys

Mae Ynys Alys yn gynhyrchiad theatr sy’n dilyn merch ifanc a’i hannibyniaeth newydd wrth iddi adael cartref am y tro cyntaf. Yn cyd-fynd â’r cynhyrchiad mae cerddoriaeth wreiddiol — wedi ei chyd-gyfansoddi gan y rapiwr Lemarl Freckleton (Lemfreck), yr artist Casi Wyn a’r electro-gynhyrchydd Alexander Comana. 

Cyn i’r cynhyrchiad gychwyn ar ei thaith genedlaethol yn Pontio Bangor nos Iau, 17 Mawrth 2022, rhyddheir EP pedwar trac ar label Frân Wen. Mae’r EP yn cynnwys caneuon oddi ar y cynhyrchiad lawn ac yn gyfuniad trawiadol o guriadau tyner a geiriau gonest, dwyieithog. Eglura Casi bod y gerddoriaeth yn “ddathliad lliwgar o wahanol steiliau”. Yn gynhyrchiad sydd wedi’i hangori o gwmpas y cysyniad ‘annibyniaeth’, ymhelaetha Casi: “Drwy ddod â rap, pop ac electro o wahanol gefndiroedd a diwylliannau at ei gilydd ‘da ni’n gallu ail-ddiffinio ein straeon a sut maen nhw’n cael eu hadrodd”. 

Yr electro-gynhyrchydd a’r artist amlgyfrwng Alexander Comana gafodd y dasg o ddod â’r gwahanol arddulliau at ei gilydd. Ychwanegodd Casi ei fod “wedi gwneud gwaith anhygoel yn uno'r genres ac maen nhw i gyd yn plethu mewn i un. Dyna sy'n dod a hwn yn wirioneddol fyw — pan ti’n stopio trio diffinio fo". Mae Lemarl Freckleton o Gasnewydd, hefyd ymysg ein 22 Artist i Wylio yn 2022, yn pwysleisio bod “Ynys Alys yn metaffor perffaith o Gymru oherwydd nid ydi’n ffitio mewn unrhyw genre, ti methu ei roi mewn bocs. Mae gennym ni lawer o gymunedau amrywiol a lleisiau gwahanol — a dyma'r stori rydyn ni'n ei hadrodd”. 

Yn gynhyrchiad arbrofol a phwerus sy'n gweld y cymeriad Alys yn cwestiynu ei pherthynas gyda'i hunaniaeth, mae naratif a cherddoriaeth Ynys Alys wedi eu creu ochr-yn-ochr mewn proses unedig. Eglura Casi: “Mae o’n gerddoriaeth fregus am yr hyn mae’n ei olygu i fodoli yng Nghymru fel person ifanc — ac yn bersonol mae o wedi bod yn daith hynod emosiynol. Mae dwyieithrwydd wedi chwarae ei ran yn reit amlwg hefyd, gyda’r Gymraeg yn eistedd yn naturiol ochr yn ochr â’r Saesneg wrth i ni lifo i mewn ac allan o alawon, curiadau a barddoniaeth”. Recordiwyd yr EP yn stiwdio Sain yn Llandwrog a rhyddheir ar label Frân Wen. Lluniau: Ffoto Nant // Gwrandewch yma

Mae Ynys Alys yn teithio Cymru rhwng 17 Mawrth a 09 Ebrill 2022:

Pontio Bangor (17 - 19 Mawrth), Neuadd Dwyfor Pwllheli (22 - 23 Mawrth), Stiwt Rhosllannerchrugog (24 - 25 Mawrth), Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (28 - 29 Mawrth), Galeri Caernarfon (30 - 31 Mawrth), Theatr Soar Merthyr Tudful (2 Ebrill), Ffwrnes Llanelli (05 - 06 Ebrill) a Theatr y Sherman Caerdydd (07 - 09 Ebrill). Am docynnau a gwybodaeth bellach ewch i franwen.com.

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

Mix Mercher: Endaf

Next
Next

Mix Mercher: Ifan Davies