Ail bennod Sŵnami yn parhau gyda ‘Be Bynnag Fydd’

Ers dychwelyd gyda'u sengl-ddwbl ‘Theatr / Uno, Cydio, Tanio’ ym mis Mawrth 2021, awgrymir fod ail don Sŵnami ar fin ein cyrraedd. Flwyddyn yn ddiweddarach ac mae’r awgrymiadau hynny wedi’u cadarnhau.

Yn galw ar lais tyner Thallo i gysgodi’r alaw ailadroddus, mae’r sengl yn adeiladu’n raddol cyn ffrwydro’n swil yn ei chytgan pwerus — “Beth bynnag sydd, beth bynnag fydd, does dim rhaid ti guddio oddi wrth y byd”. Yn gân freuddwydiol, flaengar ac amserol, pleser oedd cael holi Sŵnami am eu sengl newydd sbon 'Be Bynnag Fydd':

Croeso’n ôl! Ers faint mae Sŵnami wedi bod yn eistedd ar ‘Be Bynnag Fydd’?

Ifan Davies: Odd gen i felodi i’r gan yn fy mhen ac mewn voicenotes cyn iddi gael ei sgwennu ers tua 2019, alaw o ni wedi bod yn canu drosodd a throsodd yn y car, ond dim ond yn gymharol ddiweddar daeth y gan at ei gilydd. Mi nes i a Gruff ddod a’r elfennau gwahanol oedd gen i, a syniadau newydd gan Gruff at ei gilydd yn fy stafell sbâr yn ystod oriau man y bore. Aetho’ ni at Rich [Roberts, Stiwdio Ferlas] wedyn i recordio’r dryms ac i gymysgu. 

Mae’r geiriau a’r alaw yn hollol hyfryd. Sut daeth y cwbl at ei gilydd a’r cyfle i gydweithio gyda Thallo?  

Gruff Jones: Ifan Ywain ydi’r athrylith gyda’r geiriau. O ni’n trafod be o nisie i’r gan i fod ambiti, a sut o ni’n teimlo, ac odd e’n gwrando a bod mor empathetic, yn ystyried yn barchus be o ni’n trio cyfleu. Ac ni’n ffans enfawr o waith Thallo ers iddi ddechre rhyddhau ei chaneuon. Netho ni weithio ar gwpl o ganeuon gyda hi jysd cyn y cyfnod clo cyntaf. Oedd Elin yn mwynhau’r gan (yn ôl be nath hi ddeud!) ac mi naeth hi recordio bob dim i ni mewn rhai dyddiau.

Beth am y sain orffenedig a’r cynhyrchu?

ID: Er bod syniadau’r alawon gen i ers sbel, daeth y gan at ei gilydd yn eithaf cyflym yn y pendraw. Oedd gen i tua 4 alaw wahanol i’r rhannau gwahanol, a nes i a Gruff eistedd i lawr i strwythuro’r cyfan ac i greu ‘can’ allan o’r cawl. Unwaith oedd y strwythur mewn lle, mi nath Gruff weithio lot ar y synau a’r cynhyrchu…tra o ni’n trio rhoi valve oil ar valves rhydlyd fy nhrwmped. O’r pwynt yna ‘mlaen, oedd yr alaw yno, y syniad am y geiriau…cue Ifan Ywain i ddod mewn i ddod a cynnwys i’r holl beth!

Allwch chi sôn ychydig am gefndir y gân?

GJ: Ma ‘Be Bynnag Fydd’ yn stori ambiti taith rhywun yn derbyn ei hunaniaeth. Rhywbeth dwi ‘di teimlo, a stryglo gyda am flynyddoedd lawer. Dwi ‘di bod mor benderfynol i ffitio mewn, i berfformio fel rhywun sy’n ffitio mewn ac o ni’n ei chael hi mor anodd i agor fyny, a bod yn fi fy hun. Ond nawr, rwy'n hapusach yn dathlu fy anghydffurfiaeth. Does dim rhaid i mi guddio pwy ydw i bellach. Especially gyda chefnogaeth weddill y band. O ni gyd yn teimlo fel ei fod yn hanfodol i wynebu’r teimladau a sgwennu amdano oherwydd yn sicr nid fi yw’r unig un sydd wedi teimlo fel hyn. 

Mae’r sengl yn dilyn llwybr ychydig yn wahanol i’r senglau gafodd eu rhyddhau y llynedd. A’i dyna oedd y bwriad? 

ID: Roedden ni’n eithaf awyddus i wneud rywbeth gwahanol i Theatr / UCT ddoth allan adeg yma llynedd - roedden ni gyd yn teimlo bod hon yn addas, ac yn dangos ongl arall i’r hyn ‘da ni wedi bod yn gweithio arno’n ddiweddar.

Sut wnaethoch chi ddod a'r syniadau ar gyfer y fideo yn fyw?  

GJ: Darn perfformiad yw’r fideo, sy’n portreadu’r emosiynau y mae rhywun yn eu teimlo, wrth frwydro gyda derbyn ei hun, gan gofleidio, a chael eich croesawu a’ch llethu gan eich amgylchfyd. Odd ‘na weledigaeth o sut y dylai’r fideo edrych, ac roedd gennym Linford Hydes i fynegi hynny gyda’i allu actio a’i ddawnsio hyfryd.

Mae ‘Be Bynnag Fydd’ yn llwyfannu ar Lŵp nawr:

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

A round-up of our favourite new tracks

Next
Next

Mix Mercher: Endaf