Albwm cyntaf Tara Bandito

Yn rhannu ei thaith bersonol drwy alar, gofid a rhai o’i brwydrau mewnol, mae albwm hunan-deitlog Tara Bandito yn ddyddiadur cathartig o’i phrofiadau dros y pedair degawd ddiwethaf.

Yn ferch i’r chwedlonol Orig Williams, neu El Bandito fel yr oedd yn cael ei adnabod yn y cylch reslo, cafodd Tara Bethan ei thywys i’r byd perfformio yn ifanc iawn. Ac er y daw hynny â chyfleoedd di-ben-draw iddi fel actor ac artist, dim ond yn ddiweddar y teimla Tara gwir berchnogaeth dros greadigrwydd ei hun. Mae’r creadigrwydd hynny wedi arwain at albwm lliwgar sy’n cyfleu ei rhwystredigaethau a'i gobeithion fel merch 30-rhywbeth-oed yng Nghymru heddiw.   

Yn ôl pob pwrpas, cychwynnodd taith yr albwm yn ystod diwrnodau diflas y cyfnod clo cyntaf. Gan gyfaddef fod Haf 2020 wedi estyn cyfle iddi gymryd cam yn ôl ac ystyried yr hyn oedd hi wir am ei chyflawni, blagurodd yr hadyn hwnnw wedi sgwrs sydyn gydag Yws Gwynedd, sylfaenydd Recordiau Côsh. Ac yn fuan ar ôl ymweld â HQ y cynhyrchydd Rich Roberts ym Mhenrhyndeudraeth, cafodd ei syniadau cychwynnol eu datblygu’n draciau llawn lliw gan gynnwys ei senglau ‘Blerr’, ‘Rhyl’ a ‘Woman’. 

Tair blynedd yn ddiweddarach ac mae gan Tara albwm deg-trac: Albwm sy’n cynnwys teyrnged gerddorol i’r band Datblygu, baledi o alar am golled ei thad, caneuon sy’n ymchwilio i hunaniaeth ei hun a geiriau diorchudd sy’n ymdrin â bod yn ferch heddiw. Er ei bod yn aml yn cyfeirio at themâu bregus, mae hefyd yn albwm sy’n cofnodi cyfnodau o hapusrwydd — yn enwedig yn ei sengl ddiweddara’ ‘Croeso i Gymru’ lle mae'n dathlu’r amrywiaeth ehangach yn y sin cerddorol yng Nghymru yn 2023. Yn y bôn, mae albwm cyntaf Tara Bandito yn adrodd ei thaith unigryw fel artist ac yn ddogfen di-flewyn ar dafod o’r da a’r drwg mewn bywyd. 

Wrth groesau’r albwm i’r byd, eglura Tara: “Mewn ffordd, mae’r albwm yn cau’r cylch ohonof i’n chwydu ‘mhrofiadau a’n emosiynau personol drwy ganeuon pop. Mae’r albwm yn dechrau gyda ‘6 Feet Under’ — cân nes i ‘sgwennu 13 mlynedd yn ôl, yn syth ar ôl colli dad. Ers y foment honno, oni jest isio rhoi’r hyn oedd yn dod allan yn reddfol, i lawr yn y stiwdio, ac felly mae’r albwm yn gasgliad gonest ohonof i’n siarad am yr highs and lows mewn bywyd”.

Bydd albwm newydd Tara Bandito yn cael ei rhyddhau ar Recordiau Côsh ddydd Gwener Ionawr 27, cyn ei lansiad yn Clwb Ifor Bach ar Ddydd Miwsig Cymru, Chwefror 10. 

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

EP cyntaf High Grade Grooves: ‘Sbardun’

Next
Next

Artistiaid Forté Artists 2023