EP cyntaf High Grade Grooves: ‘Sbardun’

Ers lansio High Grade Grooves yn 2013, mae wastad wedi bod yn fwriad gan Endaf i ymestyn gorwelion cerddoriaeth electroneg Cymraeg — Deng mlynedd yn ddiweddarach ac mae'n rhyddhau casgliad cydweithredol cyntaf y label gyda EP pum-trac arbennig.

Yn cyd-fynd gyda Dydd Miwsig Cymru, mae High Grade Grooves yn rhyddhau eu casgliad cydweithredol cyntaf — Casgliad sydd wedi’i gyd-greu gan 15 artist gwahanol o Gymru. O guriadau cysurus ‘Cyffwrdd’ (SERA, Ifan Dafydd + keyala) i’r ffrwydrad byrlymus y ceir yn ‘Niwed’ (skylrk,. Shamoniks + Sachasom), mae ‘Sbardun’ yn gasgliad gwreiddiol sy’n plethu sawl genre ynghyd.

Mae pob trac wedi’i greu gan ddau gynhyrchydd a phrif leisydd, rhywbeth oedd Endaf wastad eisiau ‘gyflawni: “Y bwriad oedd cysylltu rhai o gerddorion fwyaf arbrofol Cymru efo rhai o gynhyrchwyr electronig fwyaf blaenllaw y sin heddiw”. Aeth ymlaen i egluro: “Ychydig llai ‘na blwyddyn yn ôl, gwnaethom ni alwad agored ar gyfer artistiaid oedd eisiau bod yn rhan o rywbeth cyffrous”.

Wedi cyffroi gyda’r enwau ddaeth ymlaen, aeth ati i drefnu sesiynau recordio yn y naill Stiwdio Sain a Music Box, cyn dod a’r cwbl at ei gilydd yn fuan wedi hynny. Bydd Endaf, ynghyd a’r un deg pedwar artist arall, yn lansio’r EP yn Porters Gaerdydd heno — Ewch draw!

Gwrandewch ar ‘Sbardun’ yma.

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

Behind the lens: Rhys Grail

Next
Next

Albwm cyntaf Tara Bandito