Synau cofiadwy’r flwyddyn goll
Peth difyr yw ail-ymweld, yn y cof, â thymhorau’r flwyddyn a aeth heibio, gan mai hynny’n unig, wrth edrych yn ôl, sy’n torri ar ei hundonedd. Hynny, a’r albyms wrth gwrs. Mae’r ffaith fod gennym gnwd mor dda ohonynt yn rhyfeddod ynddo’i hun, gyda’r pandemig wedi effeithio ar bob agwedd o’r diwydiant recordio, o’r creu dechreuol i’r hyrwyddo.
Daeth albwm cyntaf Ani Glass i olau dydd ym mis Mawrth, wrth i bryderon am Covid-19 gyniwair o amgylch y byd. Er i’r don gyntaf fwrw Mirores (Recordiau Neb) i’r cysgod braidd, gwnaed iawn am hynny i raddau ym mis Awst pan gipiodd y casgliad hwn wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn. Ac er nad oedd modd cyflwyno’r wobr mewn achlysur teilwng ar faes yr Eisteddfod, dyma albwm sy’n llwyr haeddu pob cydnabyddiaeth. Mae’n amlhaenog, yn freuddwydiol ac yn chwyldroadol. Yn seinyddol, mae’n llawn curiadau electronig a dawns tra mae’r geiriau yn troi o amgylch datblygiad deinamig ein tirlun a’n hamgylchedd. Gyda ‘Peirianwaith Perffaith’ a ‘Cathedral in the Desert’ yn uchafbwyntiau trawiadol, mae Ani’n cyflwyno sawl elfen wleidyddol wrth ein tywys ar daith iasol o gwmpas cymunedau Caerdydd.
Mewn undod mae nerth, ac mae’r labeli annibynnol wedi parhau i gefnogi eu hartistiaid drwy bopeth er mwyn sicrhau bod albyms Cymraeg yn cael eu cynulleidfa haeddiannol. Ymosododd Elis Derby ac Alun Gaffey ar dempled a osodwyd gan weddill teulu Recordiau Côsh eleni, ond y newydd-ddyfodiad Lewys a hawliodd ein sylw pennaf gyda Rhywbryd yn Rhywle, eu halbwm cyntaf. Gan ein llusgo ar drywydd tywyllach na’r disgwyl, dyma chwydfa ddiymddiheuriad o gymhlethdodau cudd sy’n dod â dau fyd ynghyd: purdeb pop eu gwaith cywrain cynnar (‘Camu’n Ôl’ a ‘Gwres’) a reiat wyllt lawn adrenalin ‘O’r Tywyllwch’ a ‘Cyffro’. Heb fod yn gaeth i unrhyw sŵn na phatrwm penodol, mae Lewys yn llwyddo i’n gwefreiddio.
Adeg y Pasg gwireddwyd gobeithion llawer un wrth i Omaloma ryddhau eu casgliad cynhwysfawr cyntaf, Swish (Recordiau Cae Gwyn). Yn gawl cysurlon o leisiau pruddglwyfus a melodïau lleddfol, mae’r albwm yn ein harwain ar hyd llwybrau llaethog llawn lledrith. Mae ‘Spring Break’ a ‘Tra Gwahanol’ yn cyfleu diflastod goddefol y cyfnod clo, a ‘Baby G’ yn pontio rhwng y caneuon myfyriol hyn a ‘Romeo’ sy’n llawn gobaith a sirioldeb. Deugain munud o seicedelia swil i’ch swyno.
Un agwedd sy’n clymu’r amrywiaeth eang o albyms a gafwyd yn 2020 ynghyd yw’r elfen gref o gadarnhau hunaniaeth a geir ynddynt, ac ni chaiff hynny ei amlygu’n gryfach yn unman nag yn albwm Yr Eira, Map Meddwl (I Ka Ching). Dyma albwm sy’n ein herio i ofyn ‘A oes unrhyw bwynt ’ni fyw mewn gobaith/pan fod pawb ’di colli synnwyr o’u hunaniaeth?’ O garu i wadu, o anogaeth i anobaith, dyma albwm sy’n rhwygo’n teimladau. Dros hanner blwyddyn yn ddiweddarach, mae’n dal i gydio ynof, ac yn parhau yr un mor flaengar a pherthnasol ag erioed. Hawdd fyddai nodi tirwedd seinyddol esblygol electro-pop y band, ond mae gwreiddiau Map Meddwl yn llawer mwy cymhleth na hynny wrth i’r albwm lywio’r drafodaeth am faterion cysyniadol yn ymwneud â’r Gymru gyfoes. O darddiad gitârs yr indie-pop y daw Yr Eira ond yma cawn lif cyson o alawon meddylgar, mentrus gan Lewys Wyn gyda’i lais cryg, llais sydd ar ei fwyaf hyderus ynghanol jyngl o riffs trwchus yn ‘Esgidiau Newydd’ ac yn y diweddglo deubegwn ‘Corporal’/‘Caru Cymru’. Dyma albwm sy’n ein llusgo i bob cyfeiriad gan ein hudo fwyfwy ar bob gwrandawiad.
Er bod 2020 yn flwyddyn goll i bob pwrpas, yr oedd hi, er hynny, yn flwyddyn hynod ffrwythlon i berllan cerddoriaeth Gymraeg.