Curiadau cysurus Siula

Iqra Malik a Llion Robertson yn rhyddhau am y tro cyntaf

Ddim yn aml mae artistiaid yn creu cynnwrf — yn bell cyn rhyddhau am y tro cyntaf — fel mae Siula wedi llwyddo i’w wneud. Ddeng mis wedi iddynt ymddangos ar bennod arbennig Curadur ar S4C, mae Siula yn agor eu drysau i’w byd breuddwydiol gyda ‘Golau Gwir // Ischia’.

Prosiect yr artist Iqra Malik (Artshawty) a’r cynhyrchydd Llion Robertson (Cotton Wolf) yw Siula ac mae eu sengl ddwbl newydd sbon yn ein llusgo ni mewn o’r curiad cynta’ un. Tra bod ‘Golau Gwir’ yn syml a’n llonydd, mae ‘Ischia’ yn fflach lachar o liw sy’n plethu dawns, electronica a phop.   

Yn son am y prosiect yn ei gyfanrwydd, eglura Llion: “Mae’n rhaid i bob trac ddal emosiwn — Mae'n rhaid iddo'ch cydio a'ch tynnu i mewn. Mae gen i obsesiwn gyda cherddoriaeth electronig ond hefyd gyda phop perffaith ac mae Siula yn ymgais i gyfuno'r ddau beth hynny. Yma, fe wnaethon ni drio creu sain emosiynol, sain sy'n cysylltu."

Bellach yn rhan o deulu Libertino, gadewch i guriadau moethus Siula eich tywys ar daith sy’n bell, bell o broblemau’r byd. Yn cael ei ddangos am y tro cyntaf ar Klust, gwyliwch ‘Ischia’ yma: 

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

Melfed Melys: Rhyddid i arbrofi

Next
Next

Medeni unveils debut single: ‘i'm over you’