Mix Mis Medi: Steffan Dafydd + Dyfan Lewis

Yn paratoi ein mix fis yma mae’r artist Steffan Dafydd a’r bardd Dyfan Lewis - dau ffrind ddaeth ynghyd i guradu rhywbeth unigryw ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

Y rhywbeth arbennig hwnnw oedd Creiriau Sain - cysyniad gwreiddiol oedd yn cyfuno cerddoriaeth byrfyr a geiriau gonest awduron, beirdd ac artistiaid. Wedi’i selio ar wefan creiriau.cymru - labyrinth celfyddydol sy'n croesawu cyfraniadau gan artistiaid o bob math - cafwyd darlleniadau creadigol gan Llinos Anwyl, Megan Angharad Hunter, Elen Ifan, Garmon Ab Ion, Joe Healy, Llio Maddocks a Talulah Thomas ac yn ôl Steffan, “syniad syml gyda phobl wych” oedd y gyfrinach tu ôl i’r arbrawf. I wthio’r syniad ychydig ymhellach, Klust sy’n gosod her i’r ddau guradu rhestr chwarae o’r dylanwadau oedd y tu ôl i’r syniad yn y lle cyntaf. O Los Angeles i Benmachno, dyma mix mis Medi Steffan Dafydd a Dyfan Lewis:

Fireworks (Irreversible Entanglements, Moor Mother)

Weles i Moor Mother yn chwarae hwn yn Utrecht yng ngŵyl Le Guess Who? yn 2018 neu 2019. Ma’ Moor Mother yn artist, bardd, cerddor a popeth arall ‘dan haul. Ma’i gwaith hi’n amazingly pwerus a dwi’n meddwl mai dyma’r peth agosach at Creiriau Sain dwi’n gallu ffeindio ar Spotify!

Haf Olaf (Mellt ft. Garmon)

Nath Garmon ddarllen yn Creiriau Sain - a ma’ hwn yn wych. Stand out track ar stand out album gan stand out band a stand out feat. 

Screenwriter’s Blues (Soul Coughing)

Nes i ddod ar draws Soul Coughing, a’r gân yma ar rhyw wefan weird odd yn chwarae caneuon am ddinasoedd gwahanol yn America. Gwefan weird fel y wefan Creiriau nath Dyfan guradu, nath informo Creiriau Sain wedyn…

Repelish (Mogwai)

Fi’n caru Mogwai. A fi’n caru sut ma’r music sinister yn neud i conspiracy theory rant mor stupid swnio mor serious.

Everything Will Change Always (Adam Gnade, Be Softly)

Awdur yw Adam Gnade, a ma’ fe wedi ysbridoli lyrics Breichiau Hir am flynyddoedd. Ma’ fe wedi bod yn cyd weithio gyda bands ers y 00s a fi’n caru’r ffordd ma’n cal ei waith ysgrifenedig mas. Glywes i hwn rhyw 6 mis ar ol i ni recordio Hir Oes I’r Cof - nath e’ nailo be o n’n trio neud gyda lyrics yr album 35 munud mewn 2 funud a 33 eiliad.

The Gift (The Velvet Underground)

Stori bizarre, acen hyfryd John Cale a trippy music o’r 60au hwyr - ma’r gân yma yn timeless. 

Wellness (Robocobra Quartet)

Nath Rhys, odd yn chwarae guitar yn Creiriau Sain yn Caffi Maes B, gyflwyno fi i Robocobra Quartet. Ma’r lyrics yn atgoffa fi o lot o’r stwff nath y darllenwyr adrodd. Meddwl mae darllen rhyw erthygl am productivity neu rhwbeth ma’ Robocobra Quartet yn neud. At least dyna be nes i ddeall pan nath nhw esbonio fe yng ngŵyl End of The Road ‘chydig wythnosau nol. .

Bells & Circles (Underworld, Iggy Pop)

Llais Iggy Pop yw’r llais mwya cool yn y byd. Gallyth e’ ddarllen Ikea manual a neud e’ swnio’n cool.

Quiz Night at Looky Lou’s (John K. Samson)

Fi’n gweld stori John K Samson fel indie film really moody, surreal a trist. O ni’n fan mawr o The Weakerthans a lot o ganeuon solo fe, ond ma’ hwn yn hollol whanaol a nath e’ neidio mas arno fi y tro cyntaf i fi wrando arno fe.

Comment #1 (Gil Scott-Heron)

Cadence, delweddiaeth a dicter hwn sy'n taro rhywun. Ymosodiad ar fudiad hippy America o bersbectif hawliau du.

What Time Is It? (Ken Nordine, The Fred Katz Group)

Y ffaith bod hwn o 1957, llais Ken Nordine, y pryder gwaelodol ynghylch amser yn mynd.

Coney Island (Van Morrison)

Mae gen i soft spot am yr albym corny yma oherwydd nostalgia plentyndod, ac mae disgrifiad Morrison o ddiwrnod perffaith ar Coney Island yn wych.

Piss Factory (Patti Smith)

Mae Patti Smith yn llwyddo i grynhoi teimlad swydd di-ddim ac eisiau torri'n rhydd mewn cân sy'n feirniadaeth ar ddosbarth a rhywedd.

Gweddi a'r Clwyf (Datblygu)

David R. yn chwarae gydag un o ddarnau llenyddol mwya arwyddocaol yr iaith Gymraeg i drafod trawma teuluol. 

A Letter From Home (“Blue” Gene Tyranny)

Ma hwn fel ffilm sonig. Hanner awr o fyfyrio ar y doppler effect, cyfnodau rhyngamserol a'r ymwybod.

The Days, The Hours (Black Voices)

Myfyrdodau dirfodol dyn du yn L.A. y 70au. Mae crefft a ffurf y gerdd yma wedi dylanwadu arna i'n fawr.

Awyr Agored (Omaloma) 

Gyda'r gân yma nath Omaloma atgyfodi nashi pop, rhoi Penmachno wonk arno fe a dechrau mynegi pryder cenhedlaeth ynghylch dyfodol ein cymunedau Cymraeg.

Pigs… (In There) (Robert Wyatt)

Ma moch mewn na.

Gwrandewch yma:

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

A round-up of our favourite fresh finds this Summer

Next
Next

Video Premiere: ‘Mecsico’