Melfed Melys: Rhyddid i arbrofi

Casgliad deg-trac Gruff Jones

Er nad yw Gruff Jones (Sŵnami) yn wyneb newydd i’r sin gerddoriaeth yng Nghymru, mae eu prosiect diweddaraf, Melfed Melys, yn sicr o dynnu sylw. Dros y misoedd diwethaf, mae eu curiadau cyflym — sy’n ymestyn o electronica, dawns a house — wedi bod yn gysgod cyson mewn nosweithiau clybiau nos, ac mae’n debyg mai ’mond megis dechrau yw’r prosiect.  

Eglura Gruff: “Dechreuais i’r project Melfed Melys er mwyn cael y rhyddid o ddechre o’r newydd wrth imi drawsnewid (literally lol), a chael y rhyddhad i arbrofi. Yn ddiweddar, dwi ’di cal y fraint o DJo mewn mwy o nosweithie dawns, tecno a nosweithie ‘queer’, ac am gario ’mlaen gneud hynny yn y flwyddyn newydd, wrth imi dal i ddatblygu sain Melfed Melys.” 

Wedi paratoi mix arbennig ar ein cyfer ni fis yma, ychwanega Gruff: “Mae’r casgliad yma’n adlewyrchu fy nylanwadau, y traciau fydda’i mwy na thebyg yn rhoi yn fy sets DJ, a fy nyheadau cerddorol. Llawn artistiaid sy’n perthyn i’r gymuned LHDTC+, a 40% o’r artistiaid yn dod o Gymru. Mwynhewch.”

Mix Mis Tachwedd: Melfed Melys

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

One To Watch: Hana Lili

Next
Next

Curiadau cysurus Siula