Kizzy yn rhyddhau ei sengl gyntaf oddi ar ei halbwm newydd 'Cariad y Tir'

Mae Kizzy wedi cael cyfnod tu hwnt o gynhyrchiol dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’r gerddoriaeth yn dal i lifo ganddi wrth iddi ryddhau'r sengl gyntaf oddi ar ei halbwm newydd 'Cariad y Tir'. Bydd yr albwm, sef casgliad o ganeuon gwerin Gymreig, yn cael ei rhyddhau ar Fai 20fed drwy Recordiau Sain.

Mae 'Cân Merthyr' yn gân facaronig, lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn eistedd ochr yn ochr, a hynny’n gwbl naturiol. Yn gân sy'n adrodd perthynas amheus rhwng gŵr a gwraig, dywed Kizzy: “Er bod y stori ddim yn un positif iawn, mae’r ffordd y cafodd ei hysgrifennu yn ddiddorol a dyna beth wnaeth fy nenu i at y gân ’ma — ac wrth gwrs mae wedi ei seilio ym Merthyr, lle dwi’n byw. O’n i eisiau rhoi sbin fy hun ar y gân trwy greu cerddoriaeth siriol a hwyliog i wrthgyferbynnu efo’r stori dywyll”. Bydd yr albwm yn mynd â Kizzy ar drywydd fymryn yn wahanol i'r arfer ac yn gyfle iddi arbrofi gyda nifer o ganeuon sy’n agos at ei chalon.

Unwaith eto mae Kizzy wedi recordio, cynhyrchu a chymysgu'r gerddoriaeth ei hun yn ogystal â chwarae’r holl offerynnau. Ffrydiwch 'Cân Merthyr' yma:

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

FOCUS Wales 2022

Next
Next

A round-up of our favourite new tracks