Label newydd, Artist newydd

Wedi dwy flynedd hir o arbrofi, archwilio ac yn bwysicach, creu curiadau, mae Osian Land — Keyala — yn tynnu'r llen ar ei sengl gyntaf, 'ALL I SEE IS U'

Ar ôl dwy flynedd o gasglu syniadau a chwynnu drwy samplau, mae Keyala yn barod i ryddhau ei sengl gyntaf ddydd Gwener 11eg o Awst, a hynny drwy HOSC, chwaer-label Recordiau Côsh. Wedi’i redeg gan Ywain Gwynedd, bwriad y label yw “cefnogi artistiaid electroneg newydd o Gymru”. Ychwanega Yws: “Mae cerddoriaeth electroneg yn benthyg ei hun i farchnad ryngwladol yn naturiol, felly’r gobaith ydi arddangos Cymru fel stabal wych i artistiaid newydd yn y maes.”

Keyala yw’r artist gyntaf i ryddhau dan y label ac mae’n gyffrous i’w guriadau weld olau dydd am y tro cyntaf: “Mae’r project wedi bod ar y gweill gen i ers blynyddoedd. Dwi wastad wedi cynhyrchu ers oni’n blentyn, ond i’r rhai sydd yn ‘nabod fi, jyst rhyw ddrymar yn y cefndir ‘dwi. Ac er ‘mod i’n mwynhau hynna, dwi wedi bod yn gweithio'n galad yn ddistaw bach, yn trio cael y project yma’n ‘iawn’ — dim ar gyfer neb arall ond i fi fy hun. 

Fel unrhyw gerddor, dwi dipyn bach o perfectionist, felly mae o wedi cymryd ‘chydig hirach na oni wedi gobeithio ond dwi’n hapus efo’r sengl gyntaf, ‘ALL I SEE IS U’. Does 'na ddim syniad mawr tu ôl i'r holl beth, na vision arbennig i glymu bob track hefo’i gilydd — ma 90% o be dwi’n creu o ganlyniad i fi'n malu awyr am oria' ar fy laptop yn lloft tan dwi’n mynd “oh ma hwna’n swnio’n cŵl” felly dwi jyst am weld sut ma’n mynd.”

Er ei agwedd ddiymhongar, mae Osian, sydd hefyd yn chwarae dryms i Parisa Fouladi a Dienw, i weld yn hapus gyda’r sŵn mae wedi’i greu: “Fel drymiwr sydd methu darllan nodyn o gerddoriaeth ar bapur, na’n gwybod dim tamad o theori gerddorol, dwi wastad di bod yn obssesed hefo creu timbres a creu syna' cŵl. Neshi ddechra' gwrando ar gerddoriaeth electroneg ar ôl i fy mrawd i, Siôn (Alffa), ddangos Ifan Dafydd i mi. Dwi’n cofio gwrando ar ‘Treehouse’ heb ddim syniad ar be odd DAW ne’ synths ne’ drum machines, a meddwl “sut uffar nath y boi ma greu'r music ma.” On’i rili hefo ddim syniad be oni’n i wrando ar, ac eshi'n hollol obssesed hefo be odd y broses o greu trac electronic ar ôl hynna, oherwydd oddo’n fyd hollol newydd i mi. 

Yn ddiweddar, dwi wedi datblygu sain fy hun ar ôl blynyddoedd o gynhyrchu, a blynyddoedd o ddod i ddeall yr holl betha’ sydd yn mynd mewn i gynhyrchu trac; er bod 'na gymaint dwi dal ddim yn ei ddalld.” Wrth ei holi am ei sŵn unigryw, ychwanega Osian: “Mae’n cyfuno’r holl betha’ unigryw dwi’n ei garu am gerddoriaeth mwy experimental. Dwi’n trio sneakio mewn sound design rili bizzare, over the top, drwy gyfuno elfennau arbrofol gyda cherddoriaeth mae pawb yn ei adnabod. Ar y tu allan, dwi’n meddwl bod y gerddoriaeth yn cyfleu rhiw foi smart mewn siwt, ond o dan y bonat, mae o’n rhiw mad scientist sydd yn trio creu'r petha' mwya’ mental fedrith o — i gyd tra gyna’ fo ddim syniad be mae o’n ei wneud go iawn.”  

Yn nodi Skrillex, Flume ac IMANU fel rhai o’i brif ddylanwadau, eglura Osian: “Mae’r ffordd ma’ nhw’n cyfuno’r synau fwya’ arallfydol ac estron yma mewn i draciau sydd rhan amlaf hefo sylfaen rili cyffredin mae pobl yn fwynhau o ddydd i ddydd, pop, jest yn amazing. Dyna eventually be dwi’n gobeithio gallu neud hefyd. Dwi’n rili edrych ymlaen at bobl allu clwad be dwi wedi bod yn gweithio ar dros y misoedd diwethaf. Yn enwedig yn dod allan o Gymru, dwi’n meddwl fyddo’n rwbath fresh fydd pobl ddim mor gyfarwydd hefo, a dwi’n gobeithio fedrai adeiladu rhyw sŵn unigryw a dilyn olion traed mae gymaint o fy arwyr cerddorol wedi’i adael.”

Gan edrych ymlaen at glywed mwy o senglau gan Keyala cyn hir, bydd ‘ALL I SEE IS U’ allan ddydd Gwener 11eg o Awst ar HOSC. 

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

Daniel Suge: For The Time Being

Next
Next

Introducing: Main Man