Gwilym yn ôl gyda ‘IB3Y’
O’u sengl newydd ‘IB3Y’ — i’w hail albwm sydd ar y ffordd — Klust aeth i holi Gwilym am eu hail bennod fel band
Ma'i 'di bod yn rhai blynyddoedd bellach ers i ni glywed corff o waith gan Gwilym — Sut deimlad ydi hi fod yn ôl yn y stiwdio, yn creu a’n rhyddhau cerddoriaeth unwaith eto?
Llew Glyn (LG, gitâr): Mae hi’n braf rhyddhau stwff newydd eto - mae ‘na deimlad reit sbesial pan mae’r cloc yn taro hanner nos ar ddiwrnod rhyddhau a bod y ffans yn cael clywed caneuon ‘da ni wedi bod yn eistedd arnyn nhw ers misoedd (weithiau, blynyddoedd) am y tro cyntaf.
Ifan Pritchard (IP, prif-leisydd + gitâr): Nath y broses o sgwennu’r album gychwyn yng nghanol y pandemic. Ar ôl ambell i gwis a drinc ar zoom - naethon ni sylweddoli fel band bod sgwennu ar zoom yn bosibilrwydd. Oedd hi’n broses heriol i gychwyn hefo’i ond hefyd yn un dylanwadol at weddill y prosiect swni’n ddeud. Wrth gwrs oedd ambell i dud yn y peil o sesiynau, ond ma' na ambell un wedi genuti ar yr album o’r cyfnod yna o sgwennu; a dwi’n sicr yn falch o hynny.
'IB3Y' ydi'r gyntaf i weld olau dydd — Pa mor wahanol oedd creu hon o gymharu â’ch senglau blaenorol?
IP: Pan dwi’n edrych yn ôl, oedd y cyfnod yna (pandemig) yn uffernol o ddylanwadol wrth ddychwelyd yn ôl i’r stiwdio at Rich ym Mhenrhyndeudraeth; achos erbyn hynny oedd gena' ni syniad go-lew at ba fath o gyfeiriad oedden ni isio tywys sŵn Gwilym wrth orffan gweddill y prosiect.
Yn amlwg does dim byd yn curo sesiynau mewn person - mewn stiwdio. Weithia’ da ni’n mynd i Ferlas hefo syniad o be da ni isio neud, hefo demo in hand yn barod i’w ddatblygu. Ond ar adegau eraill, oedden ni’n troi fyny i Ferlas hefo tudalen wag ac yn fwy na barod i gychwyn o scratch. Dyma ddigwyddodd hefo ‘IB3Y’ - a ma’r gân yn destament i’r syniad bod caneuon weithia jyst yn disgyn o’r awyr, gan mai ‘IB3Y’ oedd y gân nath gymryd y lleia’ o amser i’w sgwennu ar y record.
LG: Hefo’r albwm yma, mae’r stwff wedi cymryd trywydd gwahanol, hefo llawer mwy o’r caneuon yn cael eu cyfansoddi yn y stiwdio hefo Rich Roberts (cynhyrchydd Stiwdio Ferlas a 6ed aelod Gwilym). ‘Da ni wedi trio cadw’n driw i be oedd pobl yn ei licio am ein stwff ni’n barod (alawon a riffs bachog), ond wedi rhoi twist arnyn nhw a meddwl be allwn ni wneud yn wahanol tro ‘ma. Y canlyniad oedd time signatures rhyfedd a lot mwy o synths a samples.
Mae’r broses ar gyfer yr ail albwm wedi bod dipyn arafach na’r albwm gyntaf - dim ond tua blwyddyn a hanner oedd rhwng sefydlu’r band a rhyddhau ‘Sugno Gola’. Mi gychwynodd y broses wythnos cyn y cyfnod clo yn 2020, hefo sesiwn gyntaf y trac ‘teimlo’n well’, felly mae ‘na ambell gȃn sydd reit hen erbyn hyn.
Masiwr mai’r cyfansoddi yn y stiwdio oedd un o’r rhesymau am y broses hirach. Gan fod ‘na ddim deadline i ni orffen yr albwm, oedd ‘na ryddid i ni gychwyn syniadau hollol newydd o amgylch un riff gitâr neu hook llais, er enghraifft, ac ella sgrapio syniad ar ôl treulio p’nawn arno fo. Mi oedd Rhys yn dod ag Ooni fo i wneud pitsas (bendigedig, os gai ddeud) i ni gyd ‘fyd, felly mi aeth ‘na gwpwl o oriau yn fanna fyd!
Rhywbeth arall oedd yn wahanol am broses yr ail albwm oedd ein bod ni ddim yn stiwdants erbyn hyn, yn gallu treulio diwrnodau ar y tro yn gweithio ar ganeuon. Oedd ‘na fwy o ddod mewn i Ferlas i weithio ar y caneuon fesul offeryn ar ddiwrnodau ffwrdd o’r gwaith. Anaml iawn oedden ni’n 5 yn y stiwdio yr un pryd.
Bydd yr albwm yn cael ei chyflwyno mewn dwy ran — ‘rhan un’ a ‘rhan dau’ — A wnaeth hynny ganiatáu i chi feddwl am y cyfanwaith mewn ffordd ychydig yn wahanol?
IP: Da ni’n byw mewn oes lle ma’ albums yn anffodus yn cymryd set-gefn erbyn hyn. Da ni wedi cyrraedd y dyddia’ o singles a ‘Pa ganeuon sy wedi gneuti ar ba playlist ar Spotify’. Oedda ni’n teimlo bo’ ni angen cadw sylw ein cefnogwyr rhywsut, ac odd y gwahanu’r album i mewn i ddau ran yn for’ berffaith o neud hynny.
LG: Oedden ni’n awyddus i drio rhywbeth gwahanol hefo rhyddhau'r albwm yma. Gan fod ‘na amser hir wedi bod ers rhyddhau ‘Sugno Gola’ yn 2018, waeth i ni drio rhywbeth gwahanol! Rich awgrymodd ein bod ni’n rhyddhau’r albwm fesul rhan, ac ar ôl sawl fersiwn o’r cynllun rhyddhau, mi wnaethon ni benderfynu ar ryddhau’r albwm mewn dau ran - dau EP, os liciwch chi.
Ar ôl recordio ambell drac, oedd gennyn ni'r trac oedden ni’n meddwl fyddai’n agor yr albwm newydd, ond mi ddaeth ‘na drac arall wedyn newidion ni i fod yr opener. Oedd hi’n biti bod yr opener gwreiddiol ddim am fod yn agor yr albwm, felly mae hi am fod yn agor yr ail EP. Bron ein bod ni wedi trin yr albwm fel record 12 modfedd, a bod ganddo' ni, trwy’r ddau EP, gyfle i gael dau opener a dau closer. Mi aeth ‘na dipyn o waith mewn i benderfynu ar ba draciau fyddai’n mynd ar ba EP, sut fydda nhw’n gweithio hefo’i gilydd, pa rai fyddai’n cloi’r EPs, ayyb.
IP: Oedd gweld artistiaid fel Jack Garratt yn gwahanu ei album i men i bedwar disc ar Spotify, neu Sywel Nyw yn rhyddhau ei album wrth ryddhau un gân bob mis yn enghreifftiau perffaith o sut i herio’r confensiwn o ryddhau record. Ma’n gneud y broses o ryddhau llawer mwy exciting i’r ffans a ni deud gwir. Tydi gwefannau ffrydio ddim yn annhebyg i unrhyw wefan social media rili - felly pam ddim cymryd mantais o hynny?
Mae 'IB3Y' yn dilyn trywydd fymryn yn wahanol i’r hyn ‘da ni wedi dod i ddisgwyl gan Gwilym, gyda lot fwy o distortion ar y llais a’r gitars, sut ddo'th hon at ei gilydd yn y stiwdio?
LG: Mi gafodd y rhan fwyaf o 'IB3Y' ei gyfansoddi yn y stiwdio hefo Rich, Ifan a Rhys. Ers cychwyn recordio’r ail albwm, oedden ni’n awyddus i gael un trac budur, sydyn, fysa’n tynnu sylw gwrandawyr, ac 'IB3Y' oedd honna! Mae ‘na gitars budur ar draws y trac, a nes i joio mynd drwy opsiynau gwahanol o pedals fuzz i drio cael y sŵn mwya’ afiach posib.
Hon oedd y gȃn gyntaf o’r albwm newydd i fod yn rhan o’n set byw ni. ‘Da ni’n chwarae hi ers blwyddyn a hanner erbyn hyn, ac mae’r ymateb iddi mewn gigs wedi bod yn grȇt - dwi’n meddwl bod pobl yn joio mynd yn nyts iddi. Oedden ni yn yr headline slot ar nos Fercher Maes B llynedd, felly cychwyn am 2yb, a dwi’n siŵr nes i weld ambell un oedd yn hanner cysgu yn deffro ryw fymryn pan chwaraeon ni honna!
IP: Ynghyd ac ambell i drac ar y record - dwi’n teimlo bod ‘IB3Y’ yn gân sy’n herio be ma’ pobl yn ddisgwyl gan Gwilym. Mai’n gân high-tempo, distorted yn sydyn ond hefyd dal yn cyd-fynd hefo hunaniaeth sonig y band. Ma’i hefyd yn un o’r caneuon fwya’ gonest dwi ‘rioed wedi sgwennu. Wrth imi ddysgu mwy amdanaf i’n hun, a datblygu fel 'sgwennwr yn y cyfnod clo, oedd cael gafael ar lyrics yn y caneuon newydd yn rhywbeth o’n i’n edrych ymlaen i neud.
Yn y gorffennol o’n i’n mwynhau sgwennu am scenarios gwahanol o bersbectif cymeriadau dwi ‘di creu yn fy mhen, neu gyfieithu sefyllfaoedd gwleidyddol y byd i mewn i lyrics Cymraeg - ond hefo’r casgliad yma, o’n i’n gweld fy ngeiria’ yn gwyro yn naturiol at sgwennu am betha’ o’n i’n bersonol yn teimlo, neu am be oedd yn mynd ymlaen ong nghwmpas ar y pryd.
Ma’ 'IB3Y' yn sôn am y rhwystredigaeth o’n i’n teimlo yng nghanol y cyfnod clo, a sut o’n i’n teimlo fel mod i jyst angan dianc am gyfnod. Dwi’m yn foi sydd fel arfer yn gallu aros yn llonydd, ac oedd gorfod aros i mewn, yn dilyn rheolau, yn cwestiynu penderfyniadau pobl eraill, yn methu gigio, yn methu ymarfer, yn methu blwyddyn ola’ coleg wedi cael effaith hiwj arnai’n feddyliol ynghyd a phobl eraill allai ddychmygu.
Dio’m yn gân lle dwi’n chwilio am piti - dwi’n gweld y geiria fel sylwebaeth o’r cwestiynau o’n i’n gofyn wrth mi’n hun yn y cyfnod; wrth sylwi bod fy nghymeriad wedi newid a pa mor flin o’n i wedi mynd hefo fi’n hun, a’r sefyllfa o 'nghwmpas. O’n i’n teimlo fel bod hi ‘di bod yn dair blynedd call ers gweld y fersiwn gora’ o mi’n hun.
A gyda’r fideo sy’n cyd-fynd â’r gân, beth oedd y syniad tu ôl i’w pherfformio hi’n fyw?
LG: Y plan gwreiddiol oedd ffilmio fideo proffesiynol, polished ar gyfer ‘IB3Y’, ond rhwng bob dim, wnaethon ni adael petha rhy hwyr! Mi gafodd Rhys y syniad o ffilmio fideo byw yn ystod un o’n ymarferion ni yn Stiwdio 2 Sain - un shot o un ongl - gan fod hi’n gân oedden ni’n gyfarwydd hefo chwarae hi’n fyw.
Oedd yr elfen DIY yn bwysig i Rhys, felly doedd ‘na ddim llawer o waith set design, dim ond ffilmio ni yng nghanol awyrgylch ymarfer normal. Rhys olygodd y fideo a Carwyn gymysgodd y sain, felly rhwng bob dim, oedd o’r fideo mwya’ low-budget nawn ni fyth!
Cyfle cyntaf i wylio ‘IB3Y’ yma: