Talulah: ‘Byth yn Blino’
Talulah yn rhannu eu sengl gyntaf ‘Byth yn Blino’ ar label I Ka Ching.
Canwr, cyfansoddwr a DJ o Ogledd Cymru yw Talulah. Maent yn creu cyfuniad eclectig o wahanol synau ac yn aml yn dawnsio rhwng genres. Wedi’i chyd-gynhyrchu gyda Dafydd Williams a Llŷr Pari, mae cyfeiriad cerddorol ‘Byth yn Blino’ yn ymestyn o jazz, i synau clasurol i bop breuddwydiol - gyda’r harmonïau disglair a’r llinellau bas chwareus yn cynnig cartref naturiol i lais niwlog Talulah.
Yn fynegiant o gariad queer, eglura Talulah: “Mae’r gân yn trafod y syniad o ‘gartrefu’ neu ‘homing’ - y broses o ddod adra a’r teimladau conflicting o berthyn sy’n gallu codi. Mae'r gân wedi’i wreiddio o gariad queer, sef rhywbeth dwi ddim yn gweld yn cael ei drafod loads o fewn miwsig iaith Gymraeg. So, ie, oddo’n gyfle i mi ‘sgwennu rhywbeth eitha vulnerable gan obeithio y buasai pobl yn cydymdeimlo mewn rhyw fodd”.
Yn cyfeirio at yr hyn wnaeth ysbrydoli’r gân, ychwanega Talulah: “Dwi’n meddwl eitha’ lot am y pethe’ neu’r bobl sy’n gallu gweithio fel grymoedd egnïol yn fy mywyd, felly mae’r gân yn cyfleu’r cysyniad hynny. Mae teimladau o berthyn, gofal a chariad, in all its forms, wrth wraidd ‘Byth yn Blino’. Dwi’n gobeithio newch chi fwynhau’r gân, ei neges hi a’r fideo sy’n cyd-fynd”.
Fideo wedi’i gefnogi gan Gronfa Fideos Lŵp x PYST. Sengl allan ar I Ka Ching ddydd Gwener 21 Ebrill. Llun gan Leah Mclaine.
Gwyliwch ‘Byth yn Blino’ yma: