Mix Mis Tachwedd: Gillie

Wedi iddi'n llorio fis diwethaf gyda'i sengl hyfryd 'i ti', dyma Gillie yn ein croesawu i'w byd bach cyfrinachol. 

Yn dychwelyd i Gymru wedi byw yn Llundain am ddeng mlynedd, mae Gillie yn dechrau pennod newydd yng Nghaerdydd, ac yn gwneud hynny ‘dan label recordiau Libertino. ‘i ti’ yw’r gân Gymraeg gyntaf iddi ryddhau ac mae'r gyfansoddwraig, gitarydd a'r cynhyrchydd o Gaerfyrddin yn cyfaddef bod yr ymateb hyd yma wedi bod yn "hollol anhygoel". Yn gân sy’n plethu sirioldeb addfwyn y gitâr gyda churiadau cyflym, croesawgar, mae 'i ti' yn dwyn ysbrydoliaeth gan artistiaid fel Ben Marc, Gwenno a Kokoroko ac yn cyfeirio at gyfnod yn ei bywyd lle'r oedd yn teimlo’n “gwbl flinedig”.

Eglura Gillie: “Mae’r rhythm yn ymgais fwriadol i adlewyrchu cyflymder bywyd dinas, tra bod y lleisiau breuddwydiol yn adlewyrchu dihangfa a dyhead am rywbeth mwy, rhywbeth gwell”. Yn bodoli rhywle rhwng yr arswydus a'r heddychlon, mae'r sengl wedi'i dylanwadu gan wahanol lefydd ac yn angori ar y cysyniad o wagle, symud a rhyddid. Dyma Mix Mis Tachwedd Gillie Rowland:

Dark Oscillations — Loma

Dwi wedi bod yn gwrando ar Loma ers y lockdown cyntaf. Rwy'n hoffi sut maen nhw'n chwarae gyda synau a gofod ond yn bennaf, rydw i'n caru'r tywyllwch o fewn eu cerddoriaeth.

Pluo — Thallo

Mae Elin yn ffrind anhygoel ac yn ysbrydoliaeth enfawr imi. Mae ei cherddoriaeth mor brydferth, hi yw un o'r prif resymau pam roeddwn i eisiau dechrau ysgrifennu yn y Gymraeg.

Howl — Katy J Pearson

Nes i wrando ar y trac yma drosodd a throsodd yn yr haf, felly rwy'n siŵr ei bod wedi dylanwadu ar fy nghynhyrchiad a fy ysgrifennu ond mae hefyd jest yn drac gwych ac roeddwn i eisiau ei ychwanegu i'r playlist!

Pale — Helena Deland

Fel Loma, dwi'n ffan mawr o'r tywyllwch a'r gofod yn ‘Pale’. Mae cerddoriaeth Helena Deland yn hynod o cŵl ac o hyd yn fy nghyffroi.

midnight sun — Nilüfer Yanya

Mae gan y trac hwn gymaint o ‘bite’ ac ‘attitude’ yn perthyn iddi. Mae'n teimlo fel agwedd aeddfed ar deimlad o ‘teenage angst' sy'n ddiddorol iawn.

An Stevel Nowydh — Gwenno

Mae gen i gymaint o gariad at Gwenno. Fel dynes yn y byd cerddoriaeth, mae hi’n ffynhonnell gyson o ysbrydoliaeth imi.

Lightning — Jordan Rakei

Mae Jordan Rakei yn gerddor mor dalentog, ac mae ‘Lightening’ yn drac arbennig iawn. Mae'r cynhyrchiad, y trefniant a llais Jordan Rakei ei hun, yn gwbl anhygoel.

Fool — Nadine Shah

Rwy’di bod yn tynnu llawer o ysbrydoliaeth o Nadine Shah eleni, yn enwedig o’r trac yma. Mae sut cymaint o emosiwn ynddi, mae'n teimlo'n anhygoel o amrwd.

Faded — Richard Spaven (ft. Jordan Rakei)

Mae fy nrymiwr a fy mhartner Fin yn ffan enfawr o Richard Spaven, felly mae ei sŵn wedi bod yn ddylanwad mawr ar fy ngherddoriaeth i. Mae'r trac yn fy atgoffa o’r adeg pan wnaethom ni gyfarfod, felly mae'r gân yn agos iawn at fy nghalon i.

Mothering — Alisa Tully

Rwy’n mor ffodus i weithio gyda Ailsa a dydw i ddim yn siŵr beth fyddwn i’n wneud hebddi! Mae’r trac yma mor brydferth, y geiriau, y cynhyrchiad... popeth amdano — Hyfryd!

Gwrandewch yma:

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

A round-up of our favourite fresh finds this winter

Next
Next

Gŵyl Sŵn Festival 2022