Mix Mis Rhagfyr: HMS Morris

Wedi’i guradu gan bedwar aelod y band, mae’n mix ola’r flwyddyn yn cynnwys rhai o uchafbwyntiau HMS Morris o Ŵyl SUNS Ewrop.

Mae Gŵyl SUNS yn sefyll ar ben ei hunain pan mae'n dod at guradu rhaglen wreiddiol, unigryw, gan fod y cwbl wedi’i arwain ‘dan y weledigaeth o ddathlu'r celfyddydau mewn ieithoedd lleiafrifol. Ddechreuodd yr ŵyl yn 2009 fel cystadleuaeth gerddoriaeth ar gyfer cymunedau lleiafrifol Yr Eidal, ond mae bellach wedi tyfu i fod yn fan cyfarfod i artistiaid dros Ewrop gyfan. Ac yn dilyn ôl-traed Adwaith, Gruff Rhys, SYBS ac Yr Ods, yn chwifio'r faner dros Gymru, HMS Morris aeth draw i Friuli yn ddiweddar i brofi gwefr yr ŵyl.

Heledd o’r band sy’n rhannu mwy: “Dyma drac-sain ein hantur yn Udine ac mae’n cynnwys caneuon gan artistiaid oedd yn chwarae yng Ngŵyl SUNS, yn ogystal ag anthemau'r hire cars a chludom ni rhwng Slovenia a Venice. Mae diolch enfawr i'w roi i Lorenzo, gyrrwr yr ŵyl, a wnaeth agor ei galon a rhannu ei hoff ganeuon efo ni — a rheini'n bangers Eidalaidd. Fe fyddwn ni'n ail-ymweld â'r mix yma pob tro 'ni'n hiraethu am y mushroom fettuccine o Ristorante Al Gelso, am gŵn bach tew Hotel San Georgio a holl hyfryd bobl Gŵyl SUNS. Chef's kiss chef's kiss chef's kiss”.

Mwynhewch ein mix ola’r flwyddyn yma:

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Previous
Previous

Artistiaid Forté Artists 2023

Next
Next

A round-up of our favourite fresh finds this winter