Kelly Lee Owens: ‘Love You Got’

Y sengl gyntaf oddi ar ei phedwerydd albwm hirddisgwyliedig, ‘Dreamstate’

Wythnos yn union ers iddi chwarae fel rhan o barti drws-agored Caribou, Koreless a David Wrench yn Neuadd Ogwen, Bethesda, mae’r cerddor a’r cynhyrchydd o Sir Y Fflint, Kelly Lee Owens, yn cyhoeddi ei phedwerydd albwm hir-ddisgwyliedig, ‘Dreamstate’. Allan 18 Hydref drwy dh2 — chwaer label newydd sbon Dirty Hit fydd yn gartref i artistiaid electroneg dan arweiniad George Daniel (The 1975) — mae’r albwm yn dilyn trywydd sy’n cyfleu rhyddid ac wedi’i gyd-gynhyrchu gan Bicep, Tom Rowlands (The Chemical Brothers) a Daniel hefyd. 

Yn adeiladu ar y seinwedd gariadus a chysurus mae wedi’i meithrin dros y ddeng mlynedd diwethaf, eglura Kelly: “Fe ddaeth y gân at ei gilydd o’n chwilfrydedd i ddarganfod f’ewfforia mewnol – bod yn gyfforddus gyda’r da a’r drwg ynof fi’n hun er mwyn gallu cysylltu ag eraill mewn modd gwbl agored.” 

Wedi’i gyfarwyddo gan Samuel Bradley, gwyliwch y fideo sy’n cyd-fynd â ‘Love You Got’ yma: 

Lluniau:  Samuel Bradley

Erthyglau Diweddar Recent Posts

Next
Next

Riding the wave: Lila Zing