Hyll yn cyhoeddi eu halbwm cyntaf
‘Sŵn o’r Stafell Arall' — Allan 28 Gorffennaf ar label JigCal.
Wedi rhyddhau sawl prosiect arbrofol dros y chwe blynedd ddiwethaf, gan gynnwys tri EP a sawl sengl arall, bydd Hyll yn cyflwyno eu halbwm cyntaf fis Gorffennaf yma. Mae’r albwm, sy’n ddeg trac o hyd, yn gweld y pedwarawd yn dychwelyd at drefniant roc amrwd y band, gyda synau a syniadau newydd wedi’u clymu ynghyd.
Eglura'r band, “mae ‘Sŵn o'r Stafell Arall’ wedi’i greu mewn stafelloedd ymarfer, lleoliadau gigs a thai ledled Caerdydd rhwng hydref 2021 a haf 2023. Mae’n deg i ddweud bod amser yn thema cryf i’r straeon sy’n cael eu hadrodd ar y casgliad, y limbo dryslyd rhwng eich arddegau a thyfu lan i fod yn oedolyn”. Bydd Hyll yn lansio’r albwm yng Nghlwb Ifor Bach ar 28 Gorffennaf.
Mae ‘Hanner Marathon’, y sengl gyntaf oddi ar yr albwm, allan heddiw ar JigCal. Gwyliwch y fideo sy’n cyd-fynd â’r trac yma: